Gwireddu Newid – Ymunwch â Bwrdd ProMo

Ydych chi’n angerddol am waith ieuenctid a chymunedol? Yn awyddus i ddefnyddio’ch sgiliau i wireddu newid go iawn ym mywydau pobl ifanc a chymunedau ledled Cymru? Yna ymunwch â’n Bwrdd.
Mae dod yn Ymddiriedolwr gyda ProMo Cymru yn gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau arweinyddiaeth, ennill profiad yn y sector elusennol a dielw, a chyfrannu i wasanaethau a phrosiectau arloesol sydd yn cefnogi cymunedau.
Mae ProMo Cymru wedi bod yn flaengar yn datblygu gwasanaethau sydd yn grymuso ac yn hysbysu pobl ifanc, cymunedau a sefydliadau dros y 40 mlynedd diwethaf, gan gynnwys:
- Meic – llinell gymorth genedlaethol i blant a phobl ifanc Cymru
- TheSprout – llwyfan gwybodaeth ieuenctid i Gaerdydd a thu hwnt
- Prosiectau Digidol – yn cynnig cymorth a hyfforddiant digidol am ddim i sefydliadau trydydd sector
- TheAbacus – gofod celf a digwyddiadau yn cael ei arwain gan y gymuned gan gydweithio ag artistiaid lleol
- EVI – canolfan cymunedol a diwylliannol yn gwasanaethu cymuned Glyn Ebwy a’r ardaloedd cyfagos



Pam ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr?
Mae ProMo Cymru wedi ymrwymo i greu bwrdd amrywiol a chynhwysol ac yn croesawu ceisiadau gan ferched ac unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn arbennig.
“Rydym yn deall bod bwrdd amrywiol yn cyflwyno profiadau a safbwyntiau gwahanol, gan arwain at benderfyniadau strategol gwell, a chysylltiad cryfach gyda’r cymunedau rydym yn ei wasanaethu,” meddai Marco Gil-Cervantes, Prif Weithredwr ProMo Cymru.
“Rydym yn chwilio am bobl sydd â phrofiad yn y maes ieuenctid, marchnata neu adnoddau dynol yn arbennig, ond rydym hefyd yn gwerthfawrogi profiad bywyd a rhai dan 25 oed sydd eisiau profiad arweinyddiaeth,” ychwanegodd Marco.



Beth mae hyn yn ei olygu?
- Rôl wirfoddol gyda chostau teithio
- Cyfarfod bob 8 wythnos (5:30yh – 7:30yh) – ar-lein a Bae Caerdydd
- Darparir anwythiad a hyfforddiant
- Byddwch yn rhan o dîm creadigol a chefnogol sydd yn gwneud gwir wahaniaeth



Diddordeb gwneud cais?
Byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi! Cysylltwch â sue@promo.cymru i fynegi diddordeb neu cysylltwch â Marco Gil-Cervantes am sgwrs anffurfiol: marco@promo.cymru neu ffoniwch 079 7066 2341.
Dewch i ni weithio gyda’n gilydd i wireddu newid!
Tania Russell-Owen
5 Chwefror 2025
Bwrdd
ProMo Cymru
Newyddion
Erthyglau Perthnasol

Cynllunio Gwasanaeth
Gwella Ymgysylltiad Grŵp Cynefin gyda Thenantiaid
Bu ProMo Cymru yn cefnogi Grŵp Cynefin i ailwampio eu ap i denantiaid, ApCynefin, i gwrdd ag anghenion eu defnyddwyr a gwella ymgysylltiad gyda thenantiaid. Beth oedd y broblem? Mae Grŵp Cynefin yn darparu ystod eang o wasanaethau tai a chymunedol ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Powys. Maent yn cynnig amrywiaeth o opsiynau tai, […]

Astudiaethau Achos DTS
Gwella Cyfathrebu gyda Defnyddwyr Gwasanaeth ELITE
Cefnogodd ProMo Cymru ELITE i drawsnewid y ffordd roeddent yn cyfathrebu gyda defnyddwyr eu gwasanaeth, gan arwain at ymgysylltu a chymorth gwell. Beth oedd y broblem? Mae Cyflogaeth â Chymorth ELITE yn elusen sy’n ymbweru pobl anabl a difreintiedig ar draws De, Canolbarth a Gorllewin Cymru. Maent yn cefnogi defnyddwyr eu gwasanaeth drwy gynnig cyfleoedd […]

Newyddion
Croeso Marley
Mae ProMo Cymru yn falch iawn o groesawu Marley Mussington i’r tîm fel ein Intern Busnes. Mae Marley wedi graddio mewn Rheoli Digwyddiadau ar ôl cyfnod o astudio ym Manceinion tan 2024. Yn ystod ei chyfnod ym Manceinion, llwyddodd Marley i gynllunio a chyflawni amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan ddangos sgiliau trefnu a chreadigrwydd cryf. Enillodd […]