Customize Consent Preferences

We use cookies to help you navigate efficiently and perform certain functions. You will find detailed information about all cookies under each consent category below.

The cookies that are categorized as "Necessary" are stored on your browser as they are essential for enabling the basic functionalities of the site. ... 

Always Active

Necessary cookies are required to enable the basic features of this site, such as providing secure log-in or adjusting your consent preferences. These cookies do not store any personally identifiable data.

No cookies to display.

Functional cookies help perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collecting feedback, and other third-party features.

No cookies to display.

Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics such as the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.

No cookies to display.

Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.

No cookies to display.

Advertisement cookies are used to provide visitors with customized advertisements based on the pages you visited previously and to analyze the effectiveness of the ad campaigns.

No cookies to display.

Adroddiad: Sut Beth Yw Arfer Da Yn y Maes Gwybodaeth Ieuenctid Digidol

Yn y byd cyflym sydd ohoni, sydd yn llawn camwybodaeth a phegynnu cynyddol, nid oes amser pwysicach wedi bod i gael gwybodaeth ieuenctid digidol o ansawdd.

Crynodeb Gweithredol

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd mynediad at wybodaeth gywir a pherthnasol. Gall pobl ifanc archwilio eu diddordebau, deall eu hawliau, a llywio cymhlethdodau’r byd o’u cwmpas gyda gwybodaeth. Gall gweithwyr ieuenctid gefnogi pobl ifanc yn well pan fydd ganddynt fynediad rhwydd at wybodaeth dda.

Mae’r adroddiad yma yn archwilio cyflwr presennol gwybodaeth ieuenctid yng Nghymru. Edrychai ar sut gellir gwella hyn i helpu pobl ifanc i lywio’r byd digidol yn hyderus a gwneud penderfyniadau gwybodus.

Un o’r heriau sy’n wynebu gwybodaeth ieuenctid yng Nghymru yw ei bod yn anodd i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ddarganfod a llywio’r wybodaeth sydd ei angen i wneud penderfyniadau gwybodus. I fynd i’r afael â hyn, mae ProMo Cymru yn argymell cryfhau cydweithrediadau yn Ewrop. Argymhellir i sefydliadau ieuenctid weithio tuag at ennill y Marc Ansawdd Ewropeaidd ar gyfer Gwybodaeth Ieuenctid. Dylent weithredu dull cynllunio gwasanaeth i roi hwb cychwynnol i’r gwelliannau, adeiladu ar asedau presennol Cymru, buddsoddi mewn hyfforddiant, a meithrin cydweithio gwell ar draws y sector.

Cyflwyniad

Mae’r hawl i wybodaeth yn hawl dynol sylfaenol, a gydnabyddir mewn fframweithiau rhyngwladol allweddol gan gynnwys Datganiad Cyffredinol Hawliau Dynol, y Confensiwn Ewropeaidd ar Ddiogelu Hawliau Dynol a Rhyddid Sylfaenol, a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Mae’r CCUHP yn cynnig darpariaethau penodol gan sicrhau mynediad a chyfranogiad plant i wybodaeth:

  • Erthygl 12 (Parchu Safbwynt Plant): Mae gan bob plentyn yr hawl i fynegi ei farn ar faterion sydd yn effeithio arnynt, a bod y farn yma’n cael ei hystyried o ddifrif.
  • Erthygl 13 (Rhyddid Mynegiant): Mae gan bob plentyn yr hawl i chwilio, derbyn a lledaenu gwybodaeth a syniadau o bob math, boed ar lafar, yn ysgrifenedig neu mewn print, ar ffurf celf, neu unrhyw gyfrwng arall o’u dewis.
  • Erthygl 17 (Mynediad at Wybodaeth): Mae gan bob plentyn yr hawl i gael mynediad at wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys y cyfryngau, sydd yn hyrwyddo eu lles cymdeithasol, ysbrydol a moesol yn ogystal â’u hiechyd corfforol a meddyliol.

Ers dros 20 mlynedd mae Cymru wedi bod yn dylanwadu ar ddatblygiad gwybodaeth ieuenctid ledled Ewrop. Mae Cymru wedi cydweithio ac wedi bod yn aelod gweithgar o ERYICA (Asiantaeth Gwybodaeth a Chwnsela Ieuenctid Ewropeaidd). Mae ERYICA yn sefydliad annibynnol Ewropeaidd sydd yn gweithio gyda 42 o gyrff cydlynu gwybodaeth ieuenctid cenedlaethol a rhanbarthol o 26 o wledydd.

Yng Nghymru, pwysleisir pwysigrwydd gwybodaeth ieuenctid ymhellach yn adroddiad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, “Mae’n Bryd Cyflawni dros Bobl Ifanc yng Nghymru”. Mae Argymhelliad 9 yn nodi’n benodol “dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r sector i gomisiynu gwasanaeth cyfnewid gwybodaeth i Gymru, fel rhan o gynnig digidol i bobl ifanc sy’n ymwneud â gwaith ieuenctid.”

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio dull cynllunio gwasanaeth i lunio datblygiad gwaith ieuenctid a gwybodaeth ieuenctid. “Yn unol ag egwyddorion cynllunio gwasanaethau, byddai pobl ifanc yn arwain y broses o benderfynu ar fformat, cynnwys a chwmpas y gwasanaeth cyfnewid gwybodaeth, er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol i’w hanghenion.” (tudalen 23)

Mae’r argymhelliad yma yn cynnig cyfle pwysig yng Nghymru i ddysgu o arferion da, adlewyrchu ar yr hyn sydd yn llwyddiannus, adeiladu ar asedau presennol, a chydweithio gyda phobl ifanc i gynllunio a darparu gwasanaeth cydgysylltiedig ac effeithiol.

Dathlu ein pen-blwydd yn 40 oed yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd fis Hydref 2024 gyda’r bobl ifanc rydym yn gweithio â nhw a Sarah Murphy AS: Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Arbenigedd a Phrofiad ProMo Cymru mewn Gwybodaeth Ieuenctid

Mae ProMo Cymru yn elusen gofrestredig a menter gymdeithasol a sefydlwyd yn 1982. Ei nod yw cyfathrebu, cynllunio ac adeiladu gyda phobl ifanc a chymunedau er mwyn gyrru newid positif. Rydym yn ail-fuddsoddi ein helw i greu gwasanaethau mwy teg, wedi’u cynllunio a’u cyflwyno mewn partneriaeth â’r bobl rydym yn eu gwasanaethu.

Wedi’i seilio ar egwyddorion ieuenctid, cymuned, a chydweithrediad, mae ProMo Cymru yn meddu ar ddegawdau o brofiad yn darparu gwybodaeth ieuenctid digidol a gwasanaethau cymunedol. Rydym wedi datblygu cysylltiadau agos â ERYICA. Mae’r profiad eang yma wedi ein gosod fel arweinwyr mewn datblygu gwasanaethau sydd yn canolbwyntio ar ddefnyddwyr, gan ddefnyddio meddylfryd a thechnolegau digidol ledled Cymru ac Ewrop.

Defnyddiwn ddull cynllunio gwasanaeth i sicrhau bod ein gwasanaethau a’n prosiectau yn effeithiol, yn hygyrch, ac yn bodloni anghenion pobl ifanc, cymunedau, a sefydliadau.

Yng Nghymru, rydym wedi gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i gychwyn, darparu neu wella gwybodaeth i wasanaethau fel y GIG, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ofcom ac aelodau’r sector gwirfoddol fel EYST.

Cynnal ymweliad gan Dawn Bowden AS yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd ym mis Rhagfyr 2024
Staff ProMo gyda Dawn Bowden AS – Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Rydym yn cynnal Meic, y llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth genedlaethol i blant a phobl ifanc Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Rydym hefyd wedi cymryd rhan fawr yn drawsnewidiad digidol Gwasanaethau Gwybodaeth Ieuenctid yng Nghymru a thu hwnt, gyda phrosiectau fel TheSprout a CLIC sydd wedi dylanwadu ar wasanaethau gwybodaeth ieuenctid ledled Ewrop.

Mae ProMo Cymru yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau polisi sydd yn ymwneud â gwaith ieuenctid a gwybodaeth, gan gynnwys ein cyfranogiad ym Mwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal â hyn, mae ProMo yn cymryd rhan weithredol mewn sawl Grŵp Strategol Cenedlaethol eraill, gan gynnwys:

  • Grŵp Cynrychiolwyr Strategol ar y Cyd Gwaith Ieuenctid
  • Pwyllgor Gwaith a Bwrdd CWVYS
  • Partneriaeth Diogelwch Rhyngrwyd Cymru
  • Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

Amlygir ein cyrhaeddiad rhyngwladol gan ein cydweithrediad 15+ mlynedd ag ERYICA. Mae’r bartneriaeth hon wedi arwain at gefnogi datblygiad y rhaglen DesYIgn, sydd yn hyfforddi gweithwyr ieuenctid i ddefnyddio dulliau cynllunio gwasanaethau ar gyfer cyd-gynllunio gwaith ieuenctid digidol effeithiol.

Rydym hefyd yn cefnogi sefydliadau trydydd sector ledled Cymru gyda digidol fel rhan o Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a Newid, prosiect digidol a ariennir gan Lywodraeth Cymru (adran Cymunedau) mewn partneriaeth â CGGC a Cwmpas.

Heriau Allweddol Gwybodaeth Ieuenctid Digidol

Mae ein hymgysylltiad eang â’r sector ieuenctid a’n gwaith o ddarparu gwybodaeth ieuenctid digidol dros y blynyddoedd, wedi tynnu sylw at nifer o heriau allweddol gall rwystro gwasanaethau gwybodaeth effeithiol a deniadol i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru.

Mae’r heriau yma hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn Adroddiad Cyfweliad Grŵp Ffocws Gwybodaeth Ieuenctid Arloesol DesYIgn a gyhoeddwyd gan Brifysgol Åbo Akademi (Y Ffindir) a ERYICA yn 2020.

Nod yr astudiaeth oedd ehangu dealltwriaeth o ymddygiad ac arferion pobl ifanc sydd yn chwilio am wybodaeth, ac yn bwriadu defnyddio’r wybodaeth i wella effeithiolrwydd a moderneiddio gwasanaethau gwybodaeth ieuenctid.

Dysgwyd bod pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol yn cael trafferth llywio a darganfod y wybodaeth sydd eu hangen arnynt i wneud penderfyniadau gwybodus, oherwydd:

  • Proses heb ei chydgysylltu sydd yn arwain at lefelau uchel o ddyblygu gwybodaeth, sydd yn creu dryswch ac aneffeithiolrwydd
  • Diffyg pwynt cychwyn clir ar gyfer chwilio am wybodaeth, sydd yn heriol i ddefnyddwyr ddeall ble i gychwyn
  • Absenoldeb gwybodaeth sydd yn cael ei achredu neu ei gydnabod o ran ansawdd yn gyson, sydd yn tanseilio hyder a dibynadwyaeth
  • Diffyg llwybrau sefydledig i rannu gwybodaeth dda rhwng adrannau a sectorau
  • Diffyg mynediad at y rhyngrwyd, dyfeisiau digidol a data, gan arwain at eithrio digidol a thlodi
Derbyn ein Marc Ansawdd Efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid ym mis Hydref 2023.

Diffinio Gwybodaeth Ieuenctid o Ansawdd

Er mwyn sefydlu fframwaith ar gyfer rhagoriaeth, mae angen sefydlu beth yw gwybodaeth ieuenctid digidol dda.

Mae’r Siarter Gwybodaeth Ieuenctid Ewropeaidd yn nodi 9 egwyddor sydd yn rhannu’r safonau lleiaf a mesurau ansawdd ar gyfer gwaith gwybodaeth ieuenctid ledled Ewrop. Mae’r Siarter yn pwysleisio bod rhaid i wybodaeth ieuenctid fod yn annibynnol, hygyrch, cynhwysol, yn seiliedig ar anghenion, yn grymuso, yn gyfranogol, yn foesegol, yn broffesiynol ac yn rhagweithiol. Mae’n gyfeirnod ar gyfer egwyddorion a chanllawiau proffesiynol mewn gwybodaeth a chynghori ieuenctid.

Datblygwyd y Label Ansawdd Gwybodaeth Ieuenctid Ewropeaidd trwy bartneriaeth Cyngor Ewrop-ERYICA yn 2019-2020. Mae’n cynnig modd i ddarparwyr ieuenctid arddangos eu hymroddiad i ansawdd. Nod y label yw helpu pobl ifanc i adnabod ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy sydd yn cydymffurfio â’r Siarter Gwybodaeth Ieuenctid Ewropeaidd.

Mae gwybodaeth ieuenctid effeithiol yn gofyn am drawsnewid digidol cryf. Golygai hyn greu gwasanaethau effeithlon, cost-effeithiol, sydd yn gwella mynediad at wasanaethau ataliol ac yn cyfeirio at gymorth hanfodol pan fo angen.

Mae’n rhaid i wybodaeth fod yn gywir ac yn ddibynadwy, gan rymuso pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus. Mae gwybodaeth ieuenctid da hefyd yn cysylltu gwasanaethau ar-lein a wyneb-yn-wyneb, gan ddarparu system gymorth gyflawn.

Aelodau’r Grŵp Cyfranogiad Gweithredu Gwybodaeth Ieuenctid a Digidol ar ymweliad â Gwasanaethau Ieuenctid a Gwybodaeth Catalwnia yn 2023, diolch i gyllid Taith.
Map o Ganolfannau Gwybodaeth Ieuenctid yng Nghatalwnia, Sbaen

Argymhellion i Wella Gwybodaeth Ieuenctid yng Nghymru

Cryfhau Cydweithrediad Ewropeaidd

Mae ymgysylltu’n weithredol ag ERYICA yn bwysig er mwyn dysgu am arferion da gwledydd eraill Ewrop, a chael mewnwelediadau. Wrth gymryd rhan yng nghymuned ymarfer ERYICA, gall Cymru gael mynediad at hyfforddiant ac adnoddau gwerthfawr a’r ymchwil diweddaraf. Bydd y cydweithio yma yn ein galluogi i rannu gwybodaeth, profiadau, a dulliau arloesol o ymdrin â gwybodaeth ieuenctid, gan gyfoethogi datblygiad gwasanaethau yng Nghymru.

Gweithredu Dull Cynllunio Gwasanaeth

Mae defnyddio cynllunio gwasanaeth yn bwysig wrth ddatblygu gwasanaethau gwybodaeth ieuenctid sydd yn wirioneddol ymatebol i anghenion pobl ifanc. Ystyr cynllunio gwasanaeth yw meddwl am yr holl rannau ar-lein ac all-lein o wasanaeth. Rhaid meddwl am y bobl, y prosesau a’r systemau sydd eu hangen arnom i ddarparu gwasanaeth yn dda. Mae ei egwyddorion yn canolbwyntio ar yr unigolyn, cydweithredu ac iteru.

Mae defnyddio dull cynllunio gwasanaeth mewn gwybodaeth ieuenctid yn golygu ymgysylltu’n weithredol â phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol trwy’r broses cynllunio a datblygu cyfan, gan sicrhau bod gwasanaethau’n hawdd eu defnyddio, yn hygyrch ac yn effeithiol. Wrth gynnwys defnyddwyr ym mhob cam, gallem greu gwasanaethau sydd wedi’u teilwra i’w hanghenion a’u dymuniadau penodol.

Adeiladu ar Asedau Presennol Cymreig

Mae gan Gymru hanes cyfoethog o wasanaethau gwybodaeth ieuenctid, gan gynnwys mentrau cenedlaethol y gorffennol, safonau ansawdd, a grwpiau golygyddol ieuenctid. Mae’n hanfodol adeiladu ar yr asedau yma ar gyfer creu sylfaen gref ar gyfer datblygiadau’r dyfodol.

Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo Meic fel gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth genedlaethol allweddol i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae’r llinell gymorth, sydd yn agored rhwng 8yb a hanner nos bob dydd, ar gael yn ddwyieithog dros y ffôn, neges WhatsApp, neges destun, a sgwrs ar-lein.

Bydd dysgu o arfer da presennol, fel TheSprout, YEPS, Wrecsam Ifanc a gwaith Ieuenctid Digidol Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd hefyd yn bwysig. Mae’r gwasanaethau yma eisoes yn gwneud gwaith rhagorol. Gall clybiau a sefydliadau ieuenctid fod yn rhan o gynnig digidol ehangach, gan ehangu cyrhaeddiad a hygyrchedd gwybodaeth ieuenctid.

Bydda creu grŵp gwybodaeth ieuenctid traws-sector yn gam nesaf perffaith, gan gynnwys cynrychiolwyr o sectorau perthnasol megis iechyd ac addysg.

Yn olaf, byddai’n fanteisiol datblygu gwasanaeth gwybodaeth ar-lein fel Young Scot yng Nghymru, sydd yn cefnogi pobl ifanc i gael mynediad at wybodaeth a chysylltu at wasanaethau lleol a chenedlaethol o’u gliniaduron, tabledi, a ffonau symudol, ac yn ei dro yn gwella cynhwysiant digidol.

Buddsoddi mewn Hyfforddiant

Mae buddsoddi mewn hyfforddiant clir a chynhwysfawr yn hanfodol ar gyfer darparu gweithwyr ieuenctid gyda’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i gyflwyno gwybodaeth ieuenctid o ansawdd uchel. Rydym yn argymell bod gwybodaeth ieuenctid yn dod yn agwedd allweddol o Hyfforddiant Gwaith Ieuenctid. Yn ogystal, er mwyn gwella mynediad at wybodaeth ddibynadwy ymhellach, rydym yn argymell datblygu rhwydwaith o glybiau ieuenctid a sefydliadau sydd wedi’u hyfforddi i ddarparu gwybodaeth ieuenctid.

Dylai hyfforddiant gwybodaeth ieuenctid, sydd yn cynnwys llythrennedd cyfryngau, fod yn hygyrch i bobl ifanc hefyd. Wrth integreiddio gwybodaeth ieuenctid i’r cwricwlwm, yn ogystal â darparu addysg sydd yn targedu grwpiau penodol, gallwn sicrhau fod pobl ifanc yn deall sut i gael mynediad i wybodaeth glir, ddibynadwy a diogel ar-lein. Gall datblygu hyfforddiant arbenigol i grewyr cynnwys ifanc fod yn agwedd allweddol o’r cynnig yma, gan eu grymuso i gynhyrchu gwybodaeth ieuenctid ar gyfer eu cyfoedion. Gallai’r hyfforddiant yma ganolbwyntio ar gyflwyno newyddion a digwyddiadau, a darparu cyfeiriadau clir at wasanaethau cymorth hanfodol.

Derbyn y Marc Ansawdd Ewropeaidd ar gyfer Gwybodaeth Ieuenctid

Mae derbyn Marc Ansawdd ERYICA yn gam gwerthfawr tuag at sicrhau bod gwasanaethau gwybodaeth ieuenctid yng Nghymru yn bodloni safonau rhagoriaeth Ewropeaidd. Bydd cefnogi sefydliadau ieuenctid i gyflawni’r Nod Ansawdd Ewropeaidd yn gwella eu credadwyedd ac yn dangos eu hymrwymiad i ansawdd. Mae gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid yn hanfodol ar gyfer gweithredu’r argymhellion yma ac i hybu gwelliant parhaus yn y sector gwybodaeth ieuenctid yng Nghymru.

Meithrin Cydweithio Gwell ar draws Sectorau

Mae cydweithio ar draws sectorau yn hanfodol ar gyfer creu agwedd gyfannol tuag at wybodaeth ieuenctid. Bydd sefydlu gweithgor traws-sector gweithwyr proffesiynol o feysydd iechyd, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, trafnidiaeth, a meysydd perthnasol eraill, yn helpu i alluogi cyfathrebu, cydgysylltu a rhannu adnoddau. Bydd y dull cydweithredol yma yn sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at wybodaeth gynhwysfawr a pherthnasol ble bynnag yr ânt am gymorth.

I gynyddu perthnasedd a dilysrwydd gwybodaeth ieuenctid, mae’n bwysig cymryd rhan weithredol gyda chrewyr cynnwys ifanc ledled Cymru o’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol.

Casgliad

Mae’r adroddiad yma yn amlinellu argymhellion hollbwysig ar gyfer datblygu gwybodaeth ieuenctid digidol yng Nghymru, gan bwysleisio pwysigrwydd cydweithio, ansawdd, a hygyrchedd. Mae ProMo Cymru yn awyddus i gydweithio ymhellach â sefydliadau ac unigolion ledled Cymru i roi’r argymhellion yma ar waith a gwella gwybodaeth ieuenctid digidol. Os yw hyn o ddiddordeb i chi, cysylltwch i drafod partneriaethau a mentrau posibl.

Halyna Soltys
19 Mawrth 2025

star

Gwybodaeth

star

ProMo Cymru

divider

Erthyglau Perthnasol

Two staff members from Grŵp Cynefin giving a presentation
star

Cynllunio Gwasanaeth

Gwella Ymgysylltiad Grŵp Cynefin gyda Thenantiaid

Bu ProMo Cymru yn cefnogi Grŵp Cynefin i ailwampio eu ap i denantiaid, ApCynefin, i gwrdd ag anghenion eu defnyddwyr a gwella ymgysylltiad gyda thenantiaid. Beth oedd y broblem? Mae Grŵp Cynefin yn darparu ystod eang o wasanaethau tai a chymunedol ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Powys. Maent yn cynnig amrywiaeth o opsiynau tai, […]

Llun o fachgen ifanc yn eistedd wrth ddesg o flaen cyfrifiadur
star

Astudiaethau Achos DTS

Gwella Cyfathrebu gyda Defnyddwyr Gwasanaeth ELITE

Cefnogodd ProMo Cymru ELITE i drawsnewid y ffordd roeddent yn cyfathrebu gyda defnyddwyr eu gwasanaeth, gan arwain at ymgysylltu a chymorth gwell. Beth oedd y broblem? Mae Cyflogaeth â Chymorth ELITE yn elusen sy’n ymbweru pobl anabl a difreintiedig ar draws De, Canolbarth a Gorllewin Cymru. Maent yn cefnogi defnyddwyr eu gwasanaeth drwy gynnig cyfleoedd […]

star

Newyddion

Croeso Marley

Mae ProMo Cymru yn falch iawn o groesawu Marley Mussington i’r tîm fel ein Intern Busnes. Mae Marley wedi graddio mewn Rheoli Digwyddiadau ar ôl cyfnod o astudio ym Manceinion tan 2024. Yn ystod ei chyfnod ym Manceinion, llwyddodd Marley i gynllunio a chyflawni amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan ddangos sgiliau trefnu a chreadigrwydd cryf. Enillodd […]