Canllaw i Rai Sy’n Newydd i VR: Beth Ydyw a Sut Mae’n Gweithio

Mae Rhith Realiti (VR) yn dechnoleg sy’n tyfu’n gyflym iawn ac sy’n caniatáu i chi brofi pethau mewn ffordd hollol newydd. Dychmygwch ymchwilio pyramidiau’r Aifft, brwydro estroniaid ar blaned bell, neu fynychu cyfarfod busnes, i gyd o gysur eich cartref.
Sut mae VR yn gweithio?
Wrth wisgo penset VR, mae’r byd go iawn yn cael ei gau allan a byd efelychiadol yn ei le. Mae’r amgylcheddau 3D yma yn gallu bod yn fanwl iawn, gyda golygfeydd a synau fydd yn gwneud i chi deimlo fel eich bod yno go iawn.
Mae pensetiau VR yn gorchuddio’r llygaid yn llwyr, gan gau allan y pethau sy’n tynnu sylw a’ch cludo i fyd arall.
Mae gan y pensetiau 3D yma ddisgiau agos i’r llygaid 3D, bron fel gwisgo sbectol. Mae’r sgriniau uwch dechnolegol yma yn creu rhith ddyfnder, gyda’r byd rhithiol yn teimlo’n real a thri dimensiwn.
Gall VR dracio symudiadau’r pen a’r dwylo weithiau. Mae hyn yn caniatáu i chi ryngweithio â’r byd rhithiol yn naturiol, wrth droi eich pen neu ymestyn eich llaw yn unig.

Ydy VR ar gyfer gemau yn unig?
Er bod gemau VR yn ffordd boblogaidd o brofi bydoedd rhyfeddol mewn gemau, gellir defnyddio VR am lawer mwy nag adloniant yn unig. Mae VR yn datblygu o hyd, gyda defnydd gwych, gan gynnwys addysg, busnes a gofal iechyd.
Mae VR yn chwyldroi’r ffordd rydym yn dysgu. Dychmygwch daith ysgol i’r Barriff Mawr neu driniaeth lawfeddygol mewn amgylchedd diogel, rhithiol.
Mae sefydliadau’n defnyddio VR ar gyfer hyfforddiant efelychol, cynllunio cynnyrch, a chynnal cyfarfodydd rhithiol gyda chydweithwyr ledled y byd. Mae’n arf pwerus ar gyfer cydweithredu ac arloesi.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng VR, AR a MR?
Mae VR yn golygu Rhith Realiti (Virtual Reality), tra bod AR yn golygu Realiti Estynedig (Augmented Reality) a MR yn Realiti Cymysg (Mixed Reality).
Mae pob un yn eistedd dan yr ymbarél Realiti Ymestynnol (Extended Reality) gelwir yn aml yn XR.
Yn wahanol i VR, nid yw AR yn cymryd lle’r byd go iawn. Mae’n gosod gwybodaeth ddigidol ar ben y byd go iawn o’ch cwmpas. Dychmygwch eich bod yn edrych i fyny ar awyr y nos ac yn gweld clystyrau a gwybodaeth am y sêr yn cael ei ddangos trwy sgrin eich ffôn. Mae AR yn ychwanegu haen o wybodaeth ddigidol i’r byd corfforol. Efallai eich bod chi wedi clywed am Pokémon Go sydd yn un esiampl o hyn.
Mae MR yn cyfuno elfennau o VR ac AR. Mae’n creu amgylchedd hybrid ble mae pethau rhithiol a go iawn yn cydfodoli mewn amser go iawn. Dychmygwch drwsio eich beic. Gyda MR, gallech chi weld delwedd dryloyw o’r byd o’ch blaen. Wedi’i osod ar ben hynny wedyn, fe welwch amlinelliad glas llachar yn dangos yr union sbaner sydd ei angen a ble mae hwn ar eich mainc waith. Mae’n cyfuno’r byd go iawn (eich beic) gyda rhywbeth rhithiol (y sbaner) y gallech chi ei weld a rhyngweithio ag ef.
Dysgwch fwy am VR
Mae ProMo Cymru yn angerddol am archwilio potensial technoleg newydd a datblygol, yn enwedig o fewn y trydydd sector yng Nghymru.
Rydym yn deall bod VR yn faes sy’n tyfu, ond i’r rhai sy’n anghyfarwydd â’r cysyniad, gallai godi ofn. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i greu cyfoeth o gynnwys sydd wedi’i gynllunio i ddatgelu dirgelwch VR, gan arddangos VR ar waith a’ch helpu chi i benderfynu os yw VR yn rhywbeth gall weithio i’ch sefydliad chi.
Dyma rai o’r blogiau rydym wedi’u creu i’ch helpu chi i fynd i’r afael â grym VR a sut y gellid ei ddefnyddio yn y trydydd sector:
- Defnydd Posib VR i’r Trydydd Sector
- Swyddfa VR: Camu i Ddyfodol Gweithio o Gartref
- Meta Quest Pro Rhad ar Gyfer eich Elusen
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn VR ac eisiau siarad ag un o’n staff am sut y gallai fuddio eich sefydliad, trefnwch apwyntiad i siarad â ni trwy’r gwasanaeth am ddim DigiCymru. Gallem eich helpu i feddwl sut gall VR (neu ddatrysiad digidol fel arall) eich helpu chi i fynd i’r afael â her rydych chi’n wynebu.
Gwybodaeth bellach am Wasanaethau Cymorth Digidol ProMo Cymru yma.
Chwiliwch ein cronfa enfawr o adnoddau digidol yma. Blogiau, canllawiau, a phecynnau cymorth ar newid digidol, gwasanaethau digidol, gweithio’n ddigidol, ariannu digidol a mwy.
Tania Russell-Owen
26 Mawrth 2025
Technoleg
Digidol Trydydd Sector
Erthyglau Perthnasol

Adfywio
Dathlu Dwy Flynedd o Pantri EVI a Caffi Trwsio EVI
Over the past two years, EVI Pantry and Repair Café have become vital community resources, helping people save money, reduce waste, and support each other. Recently, we came together to celebrate their impact with a birthday party. ProMo Cymru are the guardians of Ebbw Vale Institute (EVI), a Grade II listed building that serves as […]

Astudiaethau Achos DTS
Cefnogi Kidscape i Wella eu Cefnogaeth Bwlio
Bu ProMo Cymru yn cefnogi Kidscape i ddatblygu system gefnogaeth fwy effeithiol i bobl ifanc sy’n profi bwlio, gan symud tu hwnt i weithdai unigol i gymorth parhaus. Beth oedd y broblem? Mae elusen Kidscape yn canolbwyntio ar atal bwlio ac amddiffyn plant. Maent yn darparu adnoddau, hyfforddiant a chefnogaeth i blant, teuluoedd a gweithwyr […]

Cynllunio Gwasanaeth
Diweddariadau Dros Gyfnod: Cylchlythyrau Meddwl Ymlaen Gwent
Gall llawer ddigwydd dros gyfnod pum mlynedd. Er mwyn rhannu hyn i gyd, rydym wedi penderfynu rhannu’r holl gylchlythyrau sydd wedi’u creu dros oes prosiect Meddwl Ymlaen Gwent. Y daith cyd-gynllunio Mae prosiect Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) wedi’i gyd-gynllunio’n fwriadol gyda phobl ifanc 16-25 oed ledled Gwent. Mae’r dull cydweithredol yma o weithio, wedi’i wreiddio […]