Tudalennau ‘Cael Help’ Newydd i Meic

Mewn tirwedd ddigidol sydd wastad yn newid, mae Meic yn ymdrechu i sicrhau bod gwybodaeth yn hawdd i’w ddarganfod er mwyn cefnogi lles plant a phobl ifanc Cymru.

Prosiect datblygu gwe Meic

Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i rai dan 25 oed yng Nghymru. Mae’n cael ei reoli gan ProMo Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r gwasanaeth wedi gwella’r profiad i’w defnyddwyr wrth gyflwyno tudalennau ‘Cael Help‘ newydd ar wefan www.meic.cymru. Mae’r datblygiad yn rhan o’u hymrwymiad i sicrhau ei  bod yn hawdd i bobl ifanc fedru darganfod gwybodaeth a chyngor hanfodol am y materion sydd yn bwysig iddyn nhw.

Datblygu rhyngwyneb cyfeillgar gyda chategorïau wedi’u teilwro

Cyn y datblygiad yma, roedd rhaid i ddefnyddwyr ddefnyddio’r bar chwilio i ddarganfod blogiau perthnasol. Nid oedd hyn yn broses hawdd os nad ydych chi’n gwybod yn union yr hyn rydych yn chwilio amdano. Mae’r tudalennau ‘Cael Help’ newydd wedi’u gosod yn amlwg ar y dudalen gartref er mwyn cael mynediad hawdd.

Ceir categorïau ac is-gategorïau penodol ar y tudalennau ‘Cael Help’. Mae pob pwnc yn ymateb i agweddau penodol bywydau pobl ifanc, fel iechyd meddwlgalare-smygubwlio, straen arholiadau, problemau ariannol, a gwneud ffrindiau.

Mae’r blogiau wedi’u tagio ar draws sawl categori perthnasol, yn rhoi’r cyfle gorau i’r plant a’r bobl ifanc i ddarganfod y wybodaeth maent yn chwilio amdano.

Wrth gategoreiddio fel hyn, mae tîm Meic wedi gweld ble mae’r bylchau yn y cynnwys. Maent wedi datblygu cynllun cynnwys i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu darganfod y wybodaeth maent yn chwilio amdano.

Cymorth holistig

Mae Meic yn deall pwysigrwydd dull holistig tuag at les ac iechyd meddwl. Mae’r tudalennau ‘Cael Help’ yn cynnwys dolenni i wasanaethau allanol sydd yn arbenigo mewn heriau penodol. Mae’r we o adnoddau rhyng-gysylltiedig yma yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cael mynediad i’r help sydd ei angen y tu hwnt i lwyfan Meic.

Wrth ddarparu gwybodaeth a chyngor ar y tudalennau ‘Cael Help’, y gobaith yw y bydd plant a phobl ifanc yn gallu cael mynediad i’r cymorth yma yn amser eu hunain pan fyddant ei angen. Mae hyn o fudd i’r bobl ifanc sydd eisiau cymorth anffurfiol ond ddim eisiau sgwrsio gyda rhywun. Mae’r rhai sydd angen cymorth pellach yn cael eu cyfeirio a’u hannog i siarad gyda’r cynghorwyr ar linell gymorth Meic.

Golwg a theimlad newydd

Yn 2023, lansiodd Meic ei gyfrif TikTok. Y bwriad oedd cyrraedd mwy o blant a phobl ifanc yng Nghymru a darparu cymorth yn y gofodau ble maent yn treulio’u hamser yn barod.

Gyda’r datblygiad yma, mae pobl ifanc wedi cyd-gynhyrchu golwg a theimlad newydd i’r llwyfan, sydd wedi cynnwys creu masgotiaid categori. Mae’r cymeriadau digidol yma, sydd wedi’u darlunio â llaw, yn cynrychioli’r categori ac yn helpu i egluro’r cynnwys. Mae esiamplau yn cynnwys mochyn ar gyfer y categori arian a deilen ar gyfer y categori amgylchedd. Mae’r adran ‘Cael Help’ yn defnyddio’r golwg newydd yma i ddangos y cynnwys ac i sicrhau cysondeb rhwng y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r wefan yn gwbl ddwyieithog gan gynnig hyblygrwydd i’r defnyddwyr wrth ddewis eu hiaith.

Canlyniadau

Mae cyflwyniad y tudalennau ‘Cael Help’ yn nodi cam sylweddol yng nghenhadaeth Meic i rymuso pobl ifanc Cymru.

Gyda chynllun sydd yn gyfeillgar i’r defnyddiwr, cynnwys blog cyfoethog, a dolenni i wasanaethau allanol, mae Meic yn sicrhau nad llinell gymorth yn unig yw’r gwasanaeth, ond canolbwynt o gymorth a gwybodaeth.

Wrth i blant a phobl ifanc lywio trwy gymhlethdodau bywyd, mae Meic yma i wrando, helpu, arwain a chefnogi ieuenctid Cymru.

Business Card with Meic contact details

Halyna Soltys
31 January 2024

star

Gwybodaeth

star

Meic

divider

Related Articles

star

Swyddi

Hysbyseb Swydd – Rheolwr Canolfan EVI

Ydych chi’n angerddol am ddatblygiad cymunedol ac yn barod i wneud gwir wahaniaeth?  Rydym yn chwilio am Reolwr Canolfan EVI deinamig a phrofiadol i arwain ein hwb cymunedol bywiog. Fel Rheolwr Canolfan, byddech yn chwarae rhan bwysig iawn yn y nod i greu gofod croesawus, cynhwysol, a ffyniannus i bawb.  Yr hyn byddech chi’n ei […]

star

Newyddion

Croeso Glain

Mae ProMo Cymru yn falch o groesawu Glain Hughes i’r tîm fel Ysgrifennwr Cynnwys Cymraeg Iau Graddiodd Glain o Brifysgol Aberystwyth yn 2023 gyda gradd mewn Hanes ac mae hi yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus o Brifysgol Caerdydd. Cafodd Glain brofiad gwerthfawr o weithio o fewn y trydydd sector […]

Catalan Youth Agency visit to Wales in 2018
star

Newyddion

Gwybodaeth Ieuenctid Ar Draws Ffiniau: Mewnwelediadau o Gatalonia

Llynedd, fel rhan o daith gyfnewid a ariannwyd gan Taith, ymwelodd ein tîm â Chatalonia, ynghyd â chynrychiolwyr o Fwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru, i archwilio eu systemau gwybodaeth ieuenctid. Rydym yn awyddus i rannu rhai o’n mewnwelediadau a’n cymariaethau â Chymru. Os oes gennych ddiddordeb yn ein gweithgareddau yn ystod y daith, mae […]