Profiadau Pobl Ifanc o Gymorth Iechyd Meddwl Gwent

Group photograph of Mind Our Future Gwent peer researchers and staff, all looking happy and pulling funny faces.

Fel rhan o Brosiect Meddwl Ymlaen Gwent, bu pobl ifanc Gwent yn helpu ymchwilio anghenion cymorth iechyd meddwl i wella gwasanaethau iddyn nhw a phobl ifanc eraill.

Beth yw Meddwl Ymlaen Gwent?

Mae Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) yn brosiect pum mlynedd sydd yn cael ei redeg gan ProMo Cymru a Mind Casnewydd ac yn cael ei ariannu drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae partneriaid y prosiect yn cynnwys sefydliadau Mind lleol a gwasanaethau ieuenctid yng Ngwent.

Mae’r prosiect MYG yn dilyn proses Cynllunio Gwasanaeth, methodoleg sydd yn creu gwasanaethau gwell. Mae pedwar cyfnod i’r broses yma – Darganfod, Diffinio, Datblygu a Chyflawni.

Yr ymchwil

Cychwynnom y prosiect gyda darn o ymchwil Darganfod. Roeddem eisiau deall anghenion pobl ifanc Gwent a’r dirwedd cymorth yn well.

Y nod yw cynllunio ffyrdd newydd i atal heriau iechyd meddwl rhag datblygu neu waethygu yng Ngwent, a  sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn y cymorth cywir ar yr amser cywir, ble bynnag yr ânt am gymorth.

Cyflogwyd grŵp o ymchwilwyr cyfoed o Went i helpu gyda’r ymchwil. Mae’r ymchwilwyr cyfoed yn cynrychioli’r pum ardal awdurdod lleol yng Ngwent: Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, a Torfaen.

Bydd yr ymchwil Darganfod a’r darganfyddiadau yn ein helpu i adnabod prif feysydd ar gyfer gwelliant i’r prosiect ganolbwyntio arnynt wrth symud ymlaen. Ar ôl penderfynu ar y blaenoriaethau, byddem yn datblygu syniadau ac yn dechrau profi’r rhain. Byddem yn dysgu o’r profion, yn mwyhau’r syniadau, ac yn cyflawni’r datrysiadau.

Group photograph of Mind Our Future Gwent peer researchers and staff, all looking happy and pulling funny faces.

Prif Fewnwelediadau

Mae Adroddiad Darganfod Meddwl Ymlaen Gwent yn rhoi trosolwg o’r ffordd rydym ni’n casglu data a prif fewnwelediadau o’r ymchwil.

Y prif fewnwelediadau oedd:

  1. Mae angen i staff fod yn ddibynadwy, yn gyfeillgar a’u bod yn deall wrth gynnal proffesiynoldeb
  2. Mae angen i wasanaethau fod yn hyblyg ac yn hygyrch i bawb
  3. Mae yna ddiffyg gwybodaeth ymysg pobl ifanc am y gwasanaethau iechyd meddwl sydd yn agored iddynt yng Ngwent
  4. Mae angen cysondeb ar bobl ifanc, yn enwedig wrth drosglwyddo o fewn, a rhwng, gwasanaethau
  5. Mae profiadau negyddol o wasanaethau yn creu rhwystr i bobl ifanc wrth chwilio am, a chael mynediad i, gymorth
  6. Mae ofni stigma yn cael effaith ar barodrwydd person ifanc i ofyn am gymorth
  7. Mae pobl ifanc angen y cymorth cywir ar yr adeg gywir

Mae pob mewnwelediad yn cael ei archwilio mewn mwy o fanylder yn yr Adroddiad Darganfod, gyda dyfyniadau gan rai o’r 203 person ifanc 11-27 oed o ledled Gwent a gafwyd eu cyfweld gan eu cyfoedion.

Three staff members stood presenting on flip chart paper to a room of young people.

Cefnogaeth gan Rhanddeiliaid

Wrth i ni symud yn ei blaen i gyfnodau Diffinio a Datblygu’r broses Cynllunio Gwasanaeth, edrychwn ymlaen at weithio gyda rhanddeiliad o Went fydd yn gallu helpu ni i gyrraedd ein nodau.

Os oes gennych chi neu eich sefydliad ddiddordeb yn y gwaith yma, e-bostiwch info@mindourfuturegwent.co.uk i gofrestru am ein rhestr bostio.

Rydym yn arbennig o awyddus i rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio gyda phobl yng Ngwent, yn enwedig y rhai sydd yn ymwneud ag iechyd meddwl pobl ifanc.

Bydd ein rhanddeiliaid ymysg y cyntaf i ddysgu am ddiweddariadau’r prosiect ac yn derbyn gwahoddiad i ymuno â ni ar gyfnodau gwahanol y prosiect.

Group of young people stood at the front of a conference room, presenting to professionals sat around circular tables

Halyna Soltys
6 November 2023

star

Newyddion

star

Cynllunio Gwasanaeth

star

Cydgynllunio

divider

Related Articles

star

Swyddi

Hysbyseb Swydd – Rheolwr Canolfan EVI

Ydych chi’n angerddol am ddatblygiad cymunedol ac yn barod i wneud gwir wahaniaeth?  Rydym yn chwilio am Reolwr Canolfan EVI deinamig a phrofiadol i arwain ein hwb cymunedol bywiog. Fel Rheolwr Canolfan, byddech yn chwarae rhan bwysig iawn yn y nod i greu gofod croesawus, cynhwysol, a ffyniannus i bawb.  Yr hyn byddech chi’n ei […]

star

Newyddion

Croeso Glain

Mae ProMo Cymru yn falch o groesawu Glain Hughes i’r tîm fel Ysgrifennwr Cynnwys Cymraeg Iau Graddiodd Glain o Brifysgol Aberystwyth yn 2023 gyda gradd mewn Hanes ac mae hi yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus o Brifysgol Caerdydd. Cafodd Glain brofiad gwerthfawr o weithio o fewn y trydydd sector […]

Catalan Youth Agency visit to Wales in 2018
star

Newyddion

Gwybodaeth Ieuenctid Ar Draws Ffiniau: Mewnwelediadau o Gatalonia

Llynedd, fel rhan o daith gyfnewid a ariannwyd gan Taith, ymwelodd ein tîm â Chatalonia, ynghyd â chynrychiolwyr o Fwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru, i archwilio eu systemau gwybodaeth ieuenctid. Rydym yn awyddus i rannu rhai o’n mewnwelediadau a’n cymariaethau â Chymru. Os oes gennych ddiddordeb yn ein gweithgareddau yn ystod y daith, mae […]