O Gymru i Falta: Uchafbwyntiau’r 4ydd Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd
Yn gynharach eleni, cafodd Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys ProMo Cymru, Halyna, y cyfle i fynychu’r 4ydd Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd ym Malta.
Daeth dros 500 o aelodau’r gymuned gwaith ieuenctid ynghyd ar gyfer y digwyddiad yma, sydd yn digwydd bob 5 mlynedd, gan gynnwys llunwyr polisi, ymchwilwyr a gweithwyr ieuenctid.
O’r cychwyn cyntaf, roedd y digwyddiad yn brofiad dysgu enfawr i ProMo. Ymunom â’r ddirprwyaeth o Asiantaeth Gwybodaeth a Chwnsela Ieuenctid Ewrop (ERYICA), partner hirdymor ProMo.


Gweledigaeth Gwaith Ieuenctid a rennir
Mae Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewrop (EYWC) yn ddigwyddiad hanfodol ar gyfer dyfodol gwaith ieuenctid yn Ewrop. O dan y thema ‘Youth Work Xcelerate’, roedd yr agenda’n llawn gweithdai yn canolbwyntio ar dri maes craidd: Craidd Gwaith Ieuenctid, Amgylchedd Gwaith Ieuenctid, a Systemau Gwaith Ieuenctid.
Er mwyn sicrhau ein bod yn cael y mewnwelediadau mwyaf perthnasol i’n sefydliad, dewisom sesiynau yn ymwneud â:
- Monitro a gwerthuso gwaith ieuenctid i fesur ei effaith.
- Archwilio technolegau newydd, gan gynnwys sut i integreiddio offer digidol arloesol i wella effeithiolrwydd gwaith ieuenctid.
- Sut gall y sector cyhoeddus a gwirfoddol gydweithio i gryfhau gwaith ieuenctid ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
Roedd y sesiynau yma yn gyfle i gydweithwyr o bob cwr o Ewrop rannu profiadau, heriau ac awgrymiadau fydda’n helpu creu map ffordd ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Arferion a phrosiectau ysbrydoledig
Yn ogystal â’r gweithdai thematig, roedd sesiynau wedi’u neilltuo i rannu arferion, prosiectau a mentrau ysbrydoledig. Yn ystod y sesiynau yma, dysgom am brosiectau rhagorol, gan gynnwys:
- Gwaith ieuenctid wedi’i lywio gan drawma o brosiect ‘Voices of Young People in Ukraine‘. Yn rhannu profiadau pobl ifanc Wcráin a’r effaith y mae rhyfel wedi’i chael ar eu bywydau.
- Defnyddio AI mewn cyfathrebu cynhwysol gan Eurodesk. Archwilio pethau ymarferol fel capsiynau awtomatig a chynhyrchu testun amgen i sicrhau bod cynnwys digidol yn hygyrch i holl bobl ifanc. Roedd hefyd yn gyfle gwych i rannu’r offer digidol defnyddir yn ProMo.


Prif Bethau Dysgwyd
Er bod y sesiynau ffurfiol yn dda iawn, dros goffi a bwyd a sgyrsiau anffurfiol gyda chydweithwyr cafwyd mewnwelediadau gwerthfawr. Cawsom gyfle i rwydweithio â dirprwyaeth y DU, gan gynnwys Leigh Middleton o’r Asiantaeth Ieuenctid Cenedlaethol (Lloegr), Marion Allison o’r Cyngor Safonau CLD (Yr Alban), a Jamie Plant o’r Adran Addysg (Gogledd Iwerddon). Roedd yn wych cael cwrdd â Tom Weiser o WCIA, a oedd hefyd yn cynrychioli Cymru.
Sgwrsiom hefyd â thîm arweinyddiaeth ERYICA, gan gynnwys y Llywydd ar y pryd Patrick Burke a’r Cyfarwyddwr Anja Frohner, a roddodd fewnwelediadau gwych i waith ieuenctid ledled Ewrop.
Mae rhai o’r prif bethau dysgwyd yn cynnwys:
- Rydym yn gwneud gwaith gwych yng Nghymru. Dylid ymfalchïo yn ein darpariaeth gwaith ieuenctid, gyda chydbwysedd da o gefnogaeth statudol a thrydydd sector. Roedd yn hyfryd cael adborth mor gadarnhaol am ein prosiectau, fel llinell gymorth Meic a Meddwl Ymlaen Gwent.
- Rydym yn arweinydd gwaith ieuenctid digidol. Ar ôl siarad â llawer o’n cyfoedion Ewropeaidd, mae’n ymddangos ein bod ar y blaen pan ddaw at arbenigedd digidol a Deallusrwydd Artiffisial. Mae ein harbenigedd wedi’i seilio ar flynyddoedd o ddefnyddio digidol fel adnodd wrth ymgysylltu â phobl ifanc.

Beth nesaf?
Bydd canlyniadau’r gynhadledd hon yn bwydo i mewn i Fap Ffordd Ewropeaidd newydd a fydd yn tywys ein cymuned am y pum mlynedd nesaf. Rydym yn gyffrous i weld sut y bydd ein cyfraniadau ni, a gwaith cydweithwyr ledled Ewrop, yn llunio dyfodol gwaith ieuenctid.
Halyna Soltys
15 Medi 2025
Newyddion
Erthyglau Perthnasol
Cynllunio Gwasanaeth
Trawsnewid Mynediad at Iechyd Meddwl Ieuenctid Wrth Gyd-gynhyrchu yng Ngwent
Young people and mental health professionals are working together to directly improve services for youth in Gwent. Young people co-leading the Mind Our Future Gwent (MoFG) project have been working with Gwent SPACE-Wellbeing Panels to improve access to mental health services. The panels are a single point of access for children’s emotional wellbeing and mental […]
Cydgynllunio
Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd Gweithredu Ieuenctid i Ysgogwyr Newid
Empowering young people aged 16-25 to actively contribute to the ongoing dialogue and development of mental health support in England and Wales. The Youth Action Away Day for Changemakers was a collaboration between Youth Access and ProMo Cymru. This extension project aimed to give young people an opportunity to consider the next steps for the […]
Newyddion
Tyrd yn Gynlluniwr Gwasanaeth Cyfoed Cyflogedig gyda Meddwl Ymlaen Gwent!
Wyt ti’n berson ifanc sy’n angerddol am lunio dyfodol gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngwent? Mae Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) yn recriwtio pobl ifanc 16-24 oed sy’n byw yng Ngwent i ymuno â ni fel Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed. Gwybodaeth gefndirol Mae Meddwl Ymlaen Gwent yn brosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol dan arweiniad ProMo Cymru […]