Datblygiad Iteraidd: Ei Athroniaeth a’i Fanteision
Awdur: Jen Lowthrop;
Amser Darllen: 7 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Oes gennych chi syniad ar gyfer gwasanaeth neu gynnyrch digidol newydd? Eisiau datblygu neu newid rhywbeth rydych chi eisoes yn ei wneud? Dylunio ac adeiladu gwefan newydd? Gallai gweithio iteraidd helpu!
Mae gweithio iteraidd yn fethodoleg cynllunio sy’n eich helpu i ddysgu a gwella’ch cynnyrch neu wasanaeth wrth i chi weithio. Mae’n gylch parhaus o ddysgu, newid ac addasu’ch gwasanaeth i fod y gorau y gall. Mae digidol yn newid drwy’r adeg, felly mae’n debyg y bydd angen i’ch cynhyrchion a’ch gwasanaethau digidol newid hefyd.
Datblygiad iteraidd yw’r dull mwyaf cyffredin o ddatblygu digidol bellach. Yn flaenorol, byddai rheoli prosiectau traddodiadol yn cynnwys creu cynllun mawr o flaen llaw a glynu wrtho nes bod y cynllun wedi’i gyflwyno. Ond, y gwir amdani yw, anaml y bydd pethau digidol yn cael eu gorffen ac anaml y bydd prosiectau’n dilyn y cynllun gwreiddiol. Felly, bydd ychwanegu’r gallu i iteru (newid yn hawdd wrth i chi weithio), yn creu cynhyrchion a gwasanaethau digidol gwell i’ch defnyddwyr.
Athroniaeth datblygu iteraidd
Mae datblygu iteraidd yn gylch parhaus, gan adeiladu un darn ar y tro, profi, dysgu, addasu, ac yna symud ymlaen i’r darn nesaf.
Yn wahanol i gynllun prosiect rhaeadr unionlin draddodiadol, ni fyddwch yn gwybod yr union drefn y byddwch chi’n adeiladu. Yn lle hynny, rydych chi’n ail-flaenoriaethu wrth i chi weithio, mewn amser real.
Mae gweithio’n iteraidd yn rhoi lle i fethu. Gall hyn swnio’n frawychus, ond mae methu yn ein helpu i ddysgu a gwella. Yn hytrach nag aros nes bod y cynnyrch wedi’i orffen, gallwch chi gynnal peilot ar gyfer syniad neu rannu darnau bach gyda defnyddwyr wrth i chi weithio. Mae hyn yn golygu eich bod chi’n cael adborth rheolaidd ac yn sicrhau eich bod chi’n creu rhywbeth sy’n addas at y diben.
Os ydych chi’n creu rhywbeth i’ch buddiolwyr, cwsmeriaid neu gleientiaid, rydych chi eisiau sicrhau eu bod nhw’n ei hoffi ac yn ei chael hi’n hawdd ac yn ddefnyddiol i’w ddefnyddio. Efallai eich bod chi’n meddwl eich bod chi’n gwybod beth sydd orau iddynt, ond nid ydych chi os nad ydych chi’n gofyn. Felly peidiwch ag aros nes gorffen i gael adborth. Profwch yn rheolaidd a newidiwch bethau yn unol â hynny.
Nid oes angen i chi fod yn gynllunydd gwasanaeth proffesiynol i weithio’n iteraidd. Mae angen i chi fod â diddordeb i ddysgu gan eich cynulleidfa a bod yn barod i brofi eich rhagdybiaethau ym mhob cam o’r cylch datblygu.
Enghraifft: cynllunio ac adeiladu gwefan newydd
Peidiwch ag aros nes bod y wefan yn fyw cyn ei gyflwyno i’ch defnyddwyr. Dilynwch y broses cynllunio iteraidd, gan gasglu adborth gan ddefnyddwyr ym mhob cam.
1. Ymchwil a gofynion
Profwch faterion allweddol a llwyddiant eich gwefan bresennol. Gwnewch ymchwil defnyddwyr. Cynhaliwch sesiwn i ddeall y gofynion allweddol ar gyfer y wefan. Blaenoriaethwch y gofynion hyn a chynlluniwch yn unol â hynny.
2. Dadansoddi a chynllunio
Dadansoddwch y gofynion allweddol a dechreuwch gynllunio sut y gallai’r wefan edrych. Rhannwch wahanol ddyluniadau gyda defnyddwyr a chasglu adborth. Gallech hyd yn oed gynnal sesiwn cyd-gynllunio.
3. Prototeipio a phrofi
Adeiladwch brototeip o’r wefan neu siwrne defnyddwyr allweddol, a fframiau gwifren i’w profi gyda’ch defnyddwyr. Profwch y strwythur, y cynllun a’r cynnwys.
4. Adeiladu’r wefan
Wrth i chi adeiladu’r wefan, profwch wahanol dudalennau a swyddogaethau gyda defnyddwyr wrth i chi weithio. Defnyddiwch yr adborth i lywio cam nesaf y datblygiad.
5. Mwy o brofion defnyddioldeb
Unwaith y bydd craidd eich gwefan yn fyw, parhewch i brofi wrth i chi gwblhau ei ddyluniad a’i swyddogaethau. Er enghraifft, profion defnyddwyr byw, adborth trwy’r wefan ac edrych ar ddadansoddeg i weld sut mae pobl yn ei defnyddio. Byddwch yn darganfod os ydynt yn gwneud y pethau rydych chi eisiau iddyn nhw eu gwneud.
Gwerthuso a phrofi parhaus
Nid yw gwefan byth wedi’i orffen. Dylech ychwanegu cynnwys newydd yn rheolaidd, profi siwrne defnyddwyr a newid pethau yn ddibynnol ar anghenion eich cynulleidfaoedd targed.
Datblygu Ystwyth yn erbyn Datblygu Iteraidd
Mae gweithio iteraidd yn agwedd ar weithio ystwyth. Os ydych chi eisiau bod yn fwy ystwyth, yna mae datblygu eich cynhyrchion a’ch gwasanaethau’n iteraidd yn fan cychwyn da.
Mae sawl tebygrwydd rhwng ffyrdd ‘Ystwyth’ (agile) ac ‘Iteraidd’ o weithio. Fodd bynnag, yn aml, pan fydd pobl yn dweud eu bod yn defnyddio Ystwyth, mewn gwirionedd maent yn gweithio’n iteraidd yn unig.
Mae hyn oherwydd bod llawer mwy i weithio Ystwyth na gweithio’n Iteraidd yn unig. Mae hyn yn cynnwys sut mae timau’n gweithio gyda’i gilydd a sut maen nhw’n cydweithio â rhanddeiliaid.
Manteision datblygu iteraidd
Pan fyddwch chi’n gweithio’n iteraidd, mae’n eich gorfodi i wrando ar eich defnyddwyr ac addasu eich cynlluniau, dyluniadau a gwasanaethau. Mae llawer mwy o fanteision hefyd.
1. Defnyddioldeb gwell
Bydd adborth defnyddwyr a phrofion defnyddwyr rheolaidd yn sicrhau eich bod chi’n adeiladu rhywbeth y gellir ei ddefnyddio. A bod cynhyrchion a gwasanaethau defnyddiadwy yn diwallu anghenion eich defnyddwyr.
Gall eich helpu i ddeall pa rannau o’ch gwefan neu gynnyrch sy’n gweithio’n dda a pha feysydd sydd angen eu gwella.
Y mwy y byddech chi’n profi a mireinio, y mwy defnyddiadwy y bydd. Y mwy defnyddiadwy ydyw, y mwy o fuddiolwyr y gallwch chi eu helpu, rhoddion y gallech chi eu derbyn, neu o bobl fydd yn ymweld â’ch gwefan.
2. Cost-effeithiol
Efallai y bydd yn ymddangos nad yw datblygu iteraidd yn gost-effeithiol. Ac mae’n golygu bod yn fwy arbrofol a phrofi’n amlach. Ond yn y tymor hir bydd yn arbed arian i chi ac yn lleihau’r tebygolrwydd o wario arian ar adeiladu’r peth anghywir.
Os nad ydych chi’n gweithio’n iteraidd, yna mae peryg y byddech chi’n gwario llawer o arian yn adeiladu cynnyrch digidol newydd na fydd eich defnyddwyr eisiau, yn gallu defnyddio neu yn ddefnyddiol iddynt.
3. Aros yn gyfredol
Gall eich helpu i gadw golwg ar newidiadau wrth i chi weithio. Er enghraifft, os oes gennych chi wefan newydd, dylech chi brofi tudalennau, ymarferoldeb neu hygyrchedd newydd yn rheolaidd gyda’ch defnyddwyr. Os ydych chi’n uwchraddio’r wefan a’r ategion, dylech chi brofi i sicrhau bod popeth yn dal i weithio. Bydd hyn yn eich helpu i’w aros yn gyfredol. Os byddwch chi’n ei anwybyddu am ychydig flynyddoedd, efallai y bydd angen ailgynllunio ac ailadeiladu’ch gwefan gyfan yn llwyr.
4. Gwelededd i randdeiliaid
Os ydych chi wedi derbyn cyllid neu wedi perswadio’ch bwrdd i ddefnyddio rhywfaint o gronfeydd wrth gefn ar ddyluniad digidol newydd, byddwch eisiau dangos ei fod yn gweithio.
Mae datblygu iteraidd yn eich galluogi i ddangos yn barhaus i randdeiliaid allweddol sut mae’r prosiect yn mynd. Mae profi’n darparu tystiolaeth reolaidd eich bod chi’n symud yn y cyfeiriad cywir ac yn creu gwerth i’ch defnyddwyr. Pan fydd rhanddeiliaid yn gweld hyn, maen nhw’n dod yn fwy hyderus yn yr hyn rydych chi’n ei wneud.
Ble i gychwyn gyda datblygiad iteraidd
Os ydym wedi eich perswadio bod gweithio iteraidd yn beth da i’w wneud, yna dyma sut i gychwyn arni.
Mae dull iteraidd yn cynnwys cynllunio a dylunio. Ac yna gweithredu, profi a gwerthuso. Mae’r broses yma yn gweithio mewn cylch, felly meddyliwch am yr hyn rydych chi’n ei ddatblygu a chychwyn gyda chynllun.
Dylai’r cynllun fod yn fach, yn wahanol i gynllun prosiect mawr arferol efallai rydych chi wedi arfer ag ef. Dylai gynnwys nod clir ochr yn ochr â syniadau bras o wahanol gamau’r prosiect. Byddwch hefyd eisiau blaenoriaethu’r pwynt gorau i gychwyn arni.
Er enghraifft, os ydych chi’n adeiladu gwefan newydd, dylech gychwyn gyda dadansoddiad llawn o’r wefan bresennol ac adolygu rhai safleoedd cystadleuwyr.
Darganfyddwch:
- Y nod terfynol rydych chi’n ceisio’i gyflawni
- Y camau allweddol rydych chi eisiau i ddefnyddwyr eu gwneud
- Pa feysydd y mae defnyddwyr yn mwynhau eu defnyddio
- Pa feysydd y mae defnyddwyr yn ei chael hi’n anodd eu defnyddio
- Beth sydd angen ei newid
Nesaf cychwynnwch y broses o ddylunio a datblygu gwefan. Ym mhob cam, profwch gyda defnyddwyr allweddol a sicrhewch fod yr adborth yn dylanwadu ar yr hyn sy’n digwydd nesaf.
Gallwch ddefnyddio adnodd rheoli prosiect, fel Asana neu Trello, i helpu i reoli gwahanol ofynion a chamau’r prosiect. Gall hyn helpu’r tîm cyfan i weld beth sy’n digwydd nesaf.
Mwy o adnoddau defnyddiol
Os ydych chi’n barod i gychwyn datblygu iteraidd, bydd yr adnoddau yma o gymorth:
- Pam bod dylunio cynnwys yn bwysig i’ch elusen
- Dysgu meddwl dylunio
- Cynllunio gwasanaethau: 3 ffordd i brofi eich rhagdybiaethau
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst