Cyfle Swydd: Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau

Group of people gathered on sofa, standing and sitting on floor. All looking at different devices together, smiling.

Hyd at 21 awyr yr wythnos. Caerdydd a gweithio o gartref.


Ymuna â’n tîm anhygoel! 

Wyt ti’n frwdfrydig am weithio ar brosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc a chymunedau i ddylanwadu newid? Mae gennym gyfle cyffroes ar gyfer Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau i ymuno â’n tîm deinamig a helpu i gyflawni cyfathrebiadau deniadol a phrosiectau effeithiol.

Pam y byddi di wrth dy fodd yn gweithio yn ProMo Cymru:

  • Gweithio hyblyg a hybrid: Gweithio o’n swyddfa yng Nghaerdydd ac o gartref. Hefyd, byddi di’n cael hyd at 4 wythnos y flwyddyn yn gweithio i ffwrdd o dy leoliad gwaith arferol yng Nghymru!
  • Cyflawni newid: Rydym yn sefydliad trydydd sector ac yn fenter gymdeithasol sy’n gweithio gyda phobl a chymunedau i sicrhau eu bod yn cael eu clywed.
  • Bod yn rhan o dîm: Byddi di’n gweithio ochr yn ochr â thîm angerddol a chefnogol yn cyflwyno prosiectau cyffrous.
  • Diwylliant cefnogol: Rydym yn weithle cyfeillgar, cydweithredol, a chynhwysol. Rydym yn ymddiried yn ein pobl, yn annog syniadau newydd, ac yn sicrhau bod pawb yn teimlo fel eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi, a’u clywed.
  • Buddiannau: 25 diwrnod o wyliau (pro-rata) + gwyliau’r banc, cynllun pensiwn hael (cyfraniad cyflogwr o hyd at 6% – yn ddibynnol ar oedran), a chynllun beicio i’r gwaith.

Yr hyn byddi di’n gwneud:

  • Cefnogi ein tîm i gyflawni prosiectau a gweithgareddau
  • Cefnogi cynllunio, cydlynu a chyflwyno gweithdai, cyfarfodydd, digwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu gyda phobl ifanc, cymunedau a sefydliadau partner
  • Cynorthwyo gyda threfnu cyfarfodydd, paratoi agendâu, cymryd nodiadau a dilyn camau gweithredu
  • Cynorthwyo gyda chreu cynnwys digidol ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau, gwefannau a deunyddiau hyrwyddo
  • Cyfrannu syniadau a dulliau creadigol i wella cyfathrebu, ymgysylltu a chyflawni prosiectau
  • Cynrychioli ProMo Cymru yn bositif wrth weithio gyda phobl ifanc, cymunedau, partneriaid a sefydliadau allanol

Cysyllta os:

  • Mae gen ti ddiddordeb yn gweithio gyda phobl ifanc a chymunedau, ac i gefnogi lleisiau fel eu bod yn cael eu clywed
  • Mae gen ti ddiddordeb mewn cyfathrebu, cyfryngau digidol, ymgysylltiad, neu waith prosiect
  • Rwyt ti’n drefnus, yn greadigol, ac yn gallu ymdopi gyda sawl tasg ar yr un pryd
  • Rwyt ti’n hyderus yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, adnoddau digidol, a llwyfannau ar-lein
  • Rwyt ti’n mwynhau gweithio ar y cyd fel rhan o dîm ond hefyd yn gallu gweithio’n annibynnol
  • Rwyt ti’n gyffroes i weithio mewn amgylchedd ble nad yw’r un ddau ddiwrnod yr un peth
  • Rwyt ti wedi ymrwymo i ddysgu a datblygu dy sgiliau wrth ennill profiad yn un o’r mentrau cymdeithasol sy’n tyfu cyflymaf yng Nghymru
  • Byddai profiad mewn cefnogi prosiect, creu cynnwys, hwyluso, neu ymgysylltiad ieuenctid yn fantais, ond nid yw’n hanfodol 

Lleoliad: Hybrid (Gweithio o gartref a’n swyddfa yng Nghaerdydd)

Cyflog:  Cyflog Byw Gwirioneddol £13.45 yr awr

Oriau: Hyd at 21 awr yr wythnos

Dyddiad cau: Dydd Gwener, 17 Gorffennaf 2026, 5yh

Cyfweliadau: Dydd Mawrth, 4 Awst a dydd Mercher, 5 Awst 2026 mewn person yn ein swyddfa yng Nghaerdydd


Gyda diddordeb? 

Edrychwn ymlaen at glywed gen ti! 

Am wybodaeth bellach cysyllta â: people@promo.cymru 

Manylion pellach am ProMo Cymru: www.promo.cymru

Gyrra’r ffurflen gais wedi’i llenwi i people@promo.cymru. Os wyt ti angen cymorth i lenwi’r ffurflen e-bostia.

Tania Russell-Owen
15 Mehefin 2026

star

Swyddi

divider

Erthyglau Perthnasol

Staff photo of people sat and standing on steps outside a building
star

Swyddi

Cyfle Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Cymraeg

Swydd perffaith ar gyfer person creadigol sy’n rhugl yn y Gymraeg Yn galw holl grewyr cynnwys – ymuna â’n tîm creadigol! Wyt ti’n ysgrifennwr creadigol gyda sgiliau iaith Gymraeg rhagorol sy’n chwilio am y cam nesaf yn dy yrfa mewn amgylchedd deinamig? Mae cyfle cyffrous, parhaol, ar gael yn ProMo Cymru ar gyfer Swyddog Cyfathrebu […]

star

Newyddion

Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd

Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]

star

Newyddion

Pennod Newydd i ProMo wrth i Marco Adlewyrchu ar 27 o Flynyddoedd

Yn dilyn bron i dair degawd o arwain ProMo Cymru, mae’r Prif Weithredwr Marco Gil-Cervantes yn camu i lawr i swydd strategol newydd fel Cyfarwyddwr Datblygu. Ble gychwynnodd popeth Cychwynnodd taith Marco gyda ProMo 27 mlynedd yn ôl, pan ymunodd â Chymdeithas Datblygu Gydweithredol De Cymru fel gweithiwr prosiect. Ei dasg oedd cefnogi pobl ifanc […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889