Helpwch ni gydag ymchwil iechyd meddwl y GIG yng Nghymru

Rydyn ni’n chwilio am bobl 14 oed a hŷn i ymuno â 2 grŵp (1 ar gyfer pobl ifanc ac 1 ar gyfer oedolion) i’n helpu i lunio ymchwil iechyd meddwl yng Nghymru. 

Gwybodaeth am y prosiect ymchwil 

Mae pobl yn y DU yn aml yn aros am hir i gael cymorth iechyd meddwl. Yng Nghymru, mae system newydd yn cael ei chyflwyno o’r enw gwasanaethau iechyd meddwl ‘mynediad agored’. 

Mae hyn yn golygu: 

Bydd pobl yng Nghymru yn gallu dewis y math o gymorth maen nhw ei eisiau a byddan nhw’n gallu cael help ar yr un diwrnod ag y byddan nhw’n gofyn. 

Rydyn ni’n cynnal prosiect ymchwil cenedlaethol i ddeall a yw’r dull newydd hwn yn gweithio’n dda i bobl a gwasanaethau. 

Rydyn ni angen eich help 

Rydyn ni angen eich help i gynllunio’r astudiaeth ymchwil hon. Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd â phrofiad bywyd o anawsterau iechyd meddwl neu sy’n gofalu am rywun sydd ag anawsterau o’r fath. Bydd eich profiad bywyd yn ein helpu i gynllunio’r astudiaeth. Bydd eich safbwynt yn helpu i sicrhau bod yr ymchwil yn ddefnyddiol ac yn adlewyrchu bywyd go iawn. 

Rydyn ni’n sefydlu dau ‘Banel Profiad Bywyd’. Bydd y grwpiau yn ein helpu i arwain a chefnogi’r ymchwil. 

Dyma beth rydyn ni’n chwilio amdano: 

  • Pobl ifanc (14-20 oed) ac oedolion (18 oed a hŷn) 
  • Pobl sydd â phrofiad o anawsterau iechyd meddwl/sy’n gofalu am oedolyn sydd ag anawsterau o’r fath 
  • Pobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl y GIG, neu wedi ceisio am gymorth 

Nid oes angen i chi wybod unrhyw beth am ymchwil – byddwch yn dysgu am hynny fel rhan o’r prosiect. Bydd eich profiad yn ein helpu i sicrhau bod yr ymchwil yn deg, yn glir ac yn ddefnyddiol. 

Beth fyddwch chi’n ei wneud 

Byddwn yn cwrdd fel grŵp naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb. Fel aelod o’r panel, byddwch yn: 

  • Helpu i sicrhau bod yr iaith a’r termau a ddefnyddir yn yr ymchwil yn glir, yn hawdd eu deall ac yn berthnasol i’r cyhoedd  
  • Rhannu eich syniadau am y ffordd orau o hyrwyddo’r ymchwil i’r cyhoedd 
  • Darllen a rhoi adborth i ni ar wybodaeth am y prosiect  
  • Ein helpu i wneud synnwyr o’n canfyddiadau o safbwynt y cyhoedd 
  • Nid oes angen unrhyw arbenigedd penodol arnoch i ymuno â’r grŵp. Byddwn yn darparu hyfforddiant os hoffech chi. Mae angen i chi allu ymuno â chyfarfod o bell, naill ai ar ffôn, tabled neu gyfrifiadur. Os yw mynediad i’r rhyngrwyd yn broblem i chi, cysylltwch â ni i drafod (sarah@promo.cymru). 

Cyfarfodydd a thaliadau 

Fel arfer, bydd cyfarfodydd y prosiect yn cael eu cynnal ar-lein ac yn para tua 1–2 awr. Rydyn ni’n disgwyl cynnal tua 4–6 cyfarfod y flwyddyn, er efallai y bydd cyfarfodydd ychwanegol yn cael eu trefnu weithiau. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw. Efallai y byddwn hefyd yn cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb, gallwn drafod hyn gyda chi os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â ni. 

Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio i fod yn gyfeillgar ac yn gefnogol, gan sicrhau profiad cadarnhaol i bawb sy’n cymryd rhan. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd gan ddefnyddio dull cyd-ddylunio, sy’n golygu y bydd eich llais yn cael ei werthfawrogi’n gyfartal ochr yn ochr â’r ymchwilwyr, a bydd eich syniadau’n llywio’r prosiect yn uniongyrchol.  

Byddwch yn cael £27.50 yr awr am eich amser i baratoi ar gyfer pob cyfarfod a mynd iddynt. Bydd hyn yn cael ei dalu mewn talebau os ydych chi dan 16 oed. Gallwch ofyn am lai os bydd hyn yn effeithio ar eich budd-daliadau.  

Oes gennych chi ddiddordeb? 

Cofrestrwch eich diddordeb drwy lenwi’r ffurflen Mynegi Diddordeb erbyn dydd Sul 27 Medi 23:59

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: sarah@promo.cymru 

Alex
28 Awst 2026

star

Newyddion

star

Swyddi

divider

Erthyglau Perthnasol

Group of people gathered on sofa, standing and sitting on floor. All looking at different devices together, smiling.
star

Swyddi

[Wedi Cau] Cyfle Swydd: Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau

Hyd at 21 awyr yr wythnos. Caerdydd a gweithio o gartref. Ymuna â’n tîm anhygoel!  Wyt ti’n frwdfrydig am weithio ar brosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc a chymunedau i ddylanwadu newid? Mae gennym gyfle cyffroes ar gyfer Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau i ymuno â’n tîm deinamig a helpu i gyflawni cyfathrebiadau deniadol a phrosiectau effeithiol. Pam y byddi […]

Staff photo of people sat and standing on steps outside a building
star

Swyddi

[Wedi Cau] Cyfle Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Cymraeg

Swydd perffaith ar gyfer person creadigol sy’n rhugl yn y Gymraeg Yn galw holl grewyr cynnwys – ymuna â’n tîm creadigol! Wyt ti’n ysgrifennwr creadigol gyda sgiliau iaith Gymraeg rhagorol sy’n chwilio am y cam nesaf yn dy yrfa mewn amgylchedd deinamig? Mae cyfle cyffrous, parhaol, ar gael yn ProMo Cymru ar gyfer Swyddog Cyfathrebu […]

star

Newyddion

Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd

Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889