Cyfle Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Cymraeg
Swydd perffaith ar gyfer person creadigol sy’n rhugl yn y Gymraeg
Yn galw holl grewyr cynnwys – ymuna â’n tîm creadigol!
Wyt ti’n ysgrifennwr creadigol gyda sgiliau iaith Gymraeg rhagorol sy’n chwilio am y cam nesaf yn dy yrfa mewn amgylchedd deinamig? Mae cyfle cyffrous, parhaol, ar gael yn ProMo Cymru ar gyfer Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Cymraeg, yn creu cynnwys ac ymgyrchoedd dwyieithog o ansawdd uchel. Ymuna â’n tîm!
Pam y byddi di wrth dy fodd yn gweithio yn ProMo Cymru:
- Gweithio hyblyg a hybrid: Gweithio o’n swyddfa yng Nghaerdydd, yn gyfan gwbl adref unrhyw le yng Nghymru, neu gymysgedd o’r ddau. Hefyd, byddi di’n cael hyd at 4 wythnos y flwyddyn yn gweithio i ffwrdd o dy leoliad gwaith arferol yng Nghymru!
- Cyflawni newid: Rydym yn sefydliad trydydd sector ac yn fenter gymdeithasol sy’n gweithio gyda phobl a chymunedau i sicrhau eu bod yn cael eu clywed.
- Bod yn rhan o dîm: Byddi di’n gweithio ochr yn ochr â thîm o grewyr angerddol a chefnogol yn cyflwyno prosiectau cyffrous.
- Diwylliant cefnogol: Rydym yn weithle cyfeillgar, cydweithredol, a chynhwysol. Rydym yn ymddiried yn ein pobl, yn annog syniadau newydd, ac yn sicrhau bod pawb yn teimlo fel eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi, a’u clywed.
- Buddiannau: 25 diwrnod o wyliau (yn codi i 30) + gwyliau’r banc. Cynllun pensiwn hael (cyfraniad cyflogwr o hyd at 6%). Cynllun beicio i’r gwaith.


Yr hyn byddi di’n gwneud:
- Cynllunio a chreu cynnwys dwyieithog deniadol (blogiau, cyfryngau cymdeithasol, fideos, cylchlythyrau)
- Cyfieithu cynnwys yn gywir rhwng y Saesneg a’r Gymraeg
- Arwain ar ymgyrchoedd digidol cyffrous a rheoli prosiectau creadigol
- Cydweithio a chyd-gynhyrchu cynnwys gyda phobl ifanc, cymunedau a chleientiaid
Cysyllta os:
- Rwyt ti’n rhugl yn y Gymraeg a gyda sgiliau ysgrifennu, prawf ddarllen, a chyfieithu eithriadol
- Mae gen ti gefndir neu gymhwyster cyfathrebu, newyddiaduraeth, cyfryngau, neu faes creadigol fel arall
- Mae gen ti brofiad profedig o ysgrifennu cynnwys diddorol sy’n canolbwyntio ar y gynulleidfa
- Rwyt ti’n weithiwr trefnus, annibynnol, yn dysgu yn sydyn, a gydag agwedd bositif “gallaf i”.
Lleoliad: Hybrid (Gweithio o gartref a/neu ein swyddfa yng Nghaerdydd)
Cyflog: £26708 - £30,327
Oriau: 35 awr yr wythnos
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 24 Gorffennaf 2026, 5yh
Cyfweliadau: Dydd Mercher, 12 Awst a dydd Iau, 13 Awst 2026 mewn person yn ein swyddfa yng Nghaerdydd
Gyda diddordeb?
Edrychwn ymlaen at glywed gen ti!
Am wybodaeth bellach cysyllta â: people@promo.cymru
Manylion pellach am ProMo Cymru: www.promo.cymru
Gyrra’r ffurflen gais wedi’i llenwi i people@promo.cymru. Os wyt ti angen cymorth i lenwi’r ffurflen e-bostia.
Tania Russell-Owen
15 Mehefin 2026
Swyddi
Erthyglau Perthnasol
Swyddi
Cyfle Swydd: Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau
Hyd at 21 awyr yr wythnos. Caerdydd a gweithio o gartref. Ymuna â’n tîm anhygoel! Wyt ti’n frwdfrydig am weithio ar brosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc a chymunedau i ddylanwadu newid? Mae gennym gyfle cyffroes ar gyfer Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau i ymuno â’n tîm deinamig a helpu i gyflawni cyfathrebiadau deniadol a phrosiectau effeithiol. Pam y byddi […]
Newyddion
Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd
Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]
Newyddion
Pennod Newydd i ProMo wrth i Marco Adlewyrchu ar 27 o Flynyddoedd
Yn dilyn bron i dair degawd o arwain ProMo Cymru, mae’r Prif Weithredwr Marco Gil-Cervantes yn camu i lawr i swydd strategol newydd fel Cyfarwyddwr Datblygu. Ble gychwynnodd popeth Cychwynnodd taith Marco gyda ProMo 27 mlynedd yn ôl, pan ymunodd â Chymdeithas Datblygu Gydweithredol De Cymru fel gweithiwr prosiect. Ei dasg oedd cefnogi pobl ifanc […]