✕

Enillydd Cyntaf Gwobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield

Marco holding his Award

Mae Cyfarwyddwr Datblygiad ProMo Cymru, Marco Gil-Cervantes, wedi ennill Gwobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2026.

Derbyniodd Marco’r wobr mewn seremoni yn yr Hilton, Caerdydd, ar 15fed Hydref 2026.

Gwobr newydd gydag ystyr arbennig

Mae’r wobr yn newydd eleni. Fe’i henwir er cof am Graham Benfield, a oedd yn Brif Weithredwr CGGC o 1989 i 2014. Mae’n dathlu pobl y mae eu cyfraniad yn ymestyn y tu hwnt i un prosiect neu un foment. Mae’n chwilio am ymroddiad, arweinyddiaeth ac ymrwymiad parhaol i gymunedau a’r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Roedd CGGC yn cydnabod Marco am dros 30 mlynedd o  arweinyddiaeth yn y sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ei arweinyddiaeth o ProMo Cymru a’n gwaith yn defnyddio technoleg ddigidol gyda phobl ifanc, cymunedau a sefydliadau ledled y wlad.

Marco being handed his award

O un prosiect i sefydliad genedlaethol

Cychwynnodd taith Marco gyda ProMo 28 mlynedd yn ôl. Dechreuodd fel gweithiwr prosiect yn cefnogi pobl ifanc yng Nghaerdydd i ddatblygu syniadau a busnesau yn y diwydiannau diwylliannol. Y bobl ifanc hynny a feddyliodd am yr enw ProMo, ac mae’r seren yn eu logo gwreiddiol yn dal i fod yn rhan o’n hunaniaeth heddiw.

Mae’r hyn a gychwynnodd fel prosiect un person bellach yn cyflogi dros 50 o staff ac yn gweithio dros Gymru, y DU ac Ewrop. Gydag arweinyddiaeth Marco, rydym wedi:

  • datblygu Meic, y llinell gymorth genedlaethol ar gyfer gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru
  • trawsnewid swyddfa tocynnau bws wag i’r ‘Abacus‘, gofod cymunedol a arweinir gan artistiaid yng Nghaerdydd
  • chwarae rhan allweddol yn achub Institiwt Glyn Ebwy, sefydliad y gweithwyr hynaf yng Nghymru, sydd bellach yn cael ei redeg fel adeilad cymunedol a diwylliannol

Marco yw’r cyntaf bob tro i ddweud nad ymdrech unigol oedd unrhyw ran o hyn.

Yn ei araith wrth dderbyn y wobr, dywedodd Marco: “I mi, mae arweinyddiaeth yn ymwneud â chynnwys pawb wrth greu ein gwaith. Mae’n ymwneud â helpu pawb i fod yn arweinwyr, i gael rheolaeth a grym gweithredu. Mae’n golygu helpu eraill i gredu ynddynt eu hunain, gadael iddynt arwain, a rhoi gwir ran iddynt wrth lunio’r dyfodol.”

Ym mis Mai 2026, trosglwyddodd Marco y fantell i’n cyd-Brif Weithredwyr newydd, Arielle a Cindy, gan symud i’w swydd newydd fel Cyfarwyddwr Datblygu. Bellach, mae’n canolbwyntio ar dwf strategol a chyfleoedd ar gyfer ProMo.

Arwyddocâd y wobr

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Marco fod y gydnabyddiaeth gan y sector yn golygu llawer iddo, “y gydnabyddiaeth orau bosibl yw cael eich gwerthfawrogi gan eich cyfoedion”.


Yn gynnar yn ei yrfa, wrth weithio yn Bilbao, Sbaen, dysgodd Marco nad “fy musnes i” na “dy fusnes di” ydyw, ond “ein busnes ni”. Mae’r wers honno wedi aros gydag ef am byth:


“Rwy’n credu’n gryf nad yw unigolyn ar ei ben ei hun yn cyflawni llawer iawn. Efallai mai fy enw i sydd ar y wobr hon, ond ‘ni’ yw’r pwyslais wedi bob erioed.

MARCO GIL-CERVANTES, CYFARWYDDWR DATBLYGU, PROMO CYMRU

Talodd ein Cyd-Brif Swyddog Gweithredol, Cindy Chen, deyrnged i etifeddiaeth Marco yn ProMo:

“Ers dros 28 mlynedd, mae enw Marco wedi bod yn gyfystyr â ProMo Cymru. Trwy ei weledigaeth, ei ddyfeisgarwch a’i ysbryd entrepreneuraidd, trawsnewidiodd yr hyn a ddechreuodd fel menter un person i’r sefydliad rhyfeddol yr ydym ni heddiw. Llongyfarchiadau! Ni allem ddychmygu derbynnydd mwy haeddiannol.”

Mae’r wobr hefyd yn golygu llawer iawn yng Nglyn Ebwy, ble mae Tim Carter, Rheolwr Institiwt Glyn Ebwy (EVI), yn gweld effaith Marco bob dydd:


“Roedd yn wych gweld Marco yn cael ei gydnabod am ei arweinyddiaeth yn y sector gwirfoddol. Chwaraeodd Marco ran allweddol yn achub Institiwt Glyn Ebwy, Sefydliad y Gweithwyr hynaf Cymru, rhag mynd yn adfail a chael ei ddymchwel. Gan arwain y Trosglwyddiad Asedau Cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu hiraf yng Nghymru, mae wedi helpu i adfywio pen deheuol tref Glyn Ebwy, o gwmpas Church Street, er budd y gymuned leol.”

Roedd gan Marco neges i’r trydydd sector hefyd: “Cofiwch pa mor arloesol ac effeithiol ydych chi i gyd. Bloeddiwch hynny’n uchel ac yn falch. Mae’r sector yma’n cyrraedd mannau na all eraill eu cyrraedd.”


Diolch, Marco

Gan bawb o ProMo Cymru, llongyfarchiadau Marco, a diolch am bopeth!


Darllenwch fwy am y wobr ar wefan Gwobrau Elusennau Cymru, a darllenwch stori Marco yn ‘Pennod Newydd i ProMo wrth i Marco Adlewyrchu ar 27 o Flynyddoedd’.

Diolch i CGGC a’r Brifysgol Agored yng Nghymru am noson wych. Llongyfarchiadau i holl enillwyr a chystadleuwyr y rownd derfynol eleni.

Halyna Soltys
20 Hydref 2026

star

Newyddion

divider

Erthyglau Perthnasol

Bethan against a black background wearing a brown plaid shirt, smiling.
star

Newyddion

Croeso, Bethan!

Mae ProMo Cymru yn falch o groesawu Bethan Gallivan i’r tîm fel ein Swyddog Cynnwys a Chyfathrebu Cymraeg newydd! Mae gan Bethan radd mewn Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, ac yn dod â thair blynedd o brofiad o’i swydd flaenorol mewn elusen sy’n ffocysu ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Yn y rôl hon, bu’n […]

Group photo of MoFG Peer Service Designers with the Welsh Flag outside Helsinki Railway station
star

Cynllunio Gwasanaeth

O Went i Helsinki: Cyfnewidfa Iechyd Meddwl

Ym mis Medi 2026, teithiodd naw o Gynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed Meddwl Ymlaen Gwent i Helsinki am wythnos o ddysgu ar y cyd gyda’r sefydliad ieuenctid Ffinnaidd Yeesi, wedi’u cyllido gan Taith. Wedi’i ysgrifennu gan Lexy, Cynlluniwr Gwasanaeth Cyfoed, Meddwl Ymlaen Gwent Cefndir Meddwl Ymlaen Gwent Mae prosiect Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) yn gydweithrediad 5 mlynedd […]

star

Swyddi

Cyfle â Thâl: Ymunwch â Phanel Profiad Bywyd Ymchwil Iechyd Meddwl GIG Cymru

Rydyn ni’n chwilio am bobl 14 oed a hŷn i ymuno â 2 grŵp (1 ar gyfer pobl ifanc ac 1 ar gyfer oedolion) i’n helpu i lunio ymchwil iechyd meddwl yng Nghymru.  Gwybodaeth am y prosiect ymchwil  Mae pobl yn y DU yn aml yn aros am hir i gael cymorth iechyd meddwl. Yng […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889