Pennod Newydd i ProMo wrth i Marco Adlewyrchu ar 27 o Flynyddoedd
Yn dilyn bron i dair degawd o arwain ProMo Cymru, mae’r Prif Weithredwr Marco Gil-Cervantes yn camu i lawr i swydd strategol newydd fel Cyfarwyddwr Datblygu.
Ble gychwynnodd popeth
Cychwynnodd taith Marco gyda ProMo 27 mlynedd yn ôl, pan ymunodd â Chymdeithas Datblygu Gydweithredol De Cymru fel gweithiwr prosiect. Ei dasg oedd cefnogi pobl ifanc yn Ne Caerdydd i ddatblygu eu syniadau a’u busnesau o fewn y diwydiannau diwylliannol.
Y bobl ifanc yma a feddyliodd am yr enw a’r logo cyntaf ar gyfer y prosiect: ProMo. Mae’r seren a ymddangosodd yn y logo gwreiddiol hwnnw, symbol o ddyhead a gobaith, yn parhau i fod yn rhan o hunaniaeth ProMo hyd heddiw.



Effaith, Proffil, Twf
Mae’r hyn a gychwynnodd fel prosiect un person yng Nghaerdydd wedi tyfu i fod yn rhywbeth wir anhygoel. Mae ProMo Cymru bellach yn cyflogi dros 50 aelod o staff, yn cyflawni prosiectau’n genedlaethol ledled Cymru, ac yn cynnal cysylltiadau a chydweithrediadau ystyrlon ledled y DU ac Ewrop.
Mae ffocws ProMo wedi bod yn cefnogi pobl ifanc a chymunedau erioed. Mae aros yn driw i egwyddorion gwaith ieuenctid a gwerthoedd cydweithredol wrth ein craidd, yn sicrhau bod ein gwaith yn parhau i fod yn ddilys – mae popeth arall a wnawn yn llifo’n naturiol o’r sylfaen honno.



Etifeddiaeth Marco
Mae rhestr y cyflawniadau dros y 27 mlynedd yma’n hir, ond mae rhai yn sefyll allan.
- Trawsnewid swyddfa docynnau bws wag i’r Abacus, gofod cymunedol bywiog dan arweiniad artistiaid oedd yn cynnig gofod i artistiaid, cerddorion a meddyliau creadigol lleol i gysylltu, arddangos a pherfformio.
- Trefnu digwyddiadau DeepCult gan gynnwys gwyliau rhyngwladol a digwyddiad Sanctuary Wales ym Mae Caerdydd, yr ‘Atomic Fish Collective’ “enwog” a chyfnewidfa draws ddiwylliannol yn dod â pherfformwyr Carnifal St Kitts i Ŵyl Aberdâr
- Datblygu Meic, y llinell gymorth genedlaethol gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc Cymru, a ddaeth yn uniongyrchol o lwyddiant prosiect CLIC, y gwasanaeth gwybodaeth genedlaethol i bobl ifanc yng Nghymru.
- Chwarae rhan allweddol yn achub Sefydliad Glynebwy, y sefydliad hynaf yng Nghymru, rhag cau a dirywio. Heddiw, mae’r EVI yn sefyll fel adeilad cymunedol a diwylliannol, yn gwasanaethu cymunedau Glynebwy a Blaenau Gwent.
Ochr yn ochr â’r rhain, mae ProMo wedi gweithio ar draws y GIG, gwasanaethau ieuenctid a’r trydydd sector i sicrhau bod lleisiau ifanc yn wirioneddol yn arwain datblygiad gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
Marco yw’r cyntaf i bwysleisio nad ymdrech unigol yw hyn i gyd. Mae’n rhannu bod llwyddiant ProMo yn deillio o “gydweithrediad, gwaith caled ac ymroddiad ein staff, a sefydlogrwydd ac ymroddiad ein haelodau bwrdd gwirfoddol.”



Beth sydd i ddod nesaf?
Yn ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr Datblygu, bydd Marco yn canolbwyntio ar dwf strategol a chyfleoedd y dyfodol, gan helpu i gadw ProMo ar flaen y gad o ran arloesedd a menter gymdeithasol. Mae’n parhau i fuddsoddi’n drwm yn nhaith y sefydliad.
“Rwyf wastad wedi gweithio i ddatblygu diwylliant a phobl hyderus, greadigol a chefnogol o fewn ProMo Cymru fel y sylfaen i olyniaeth, sy’n hanfodol i’n llwyddiant a’n datblygiad yn y dyfodol,” myfyria Marco.
“Teimlai fel bod y 27 mlynedd diwethaf wedi arwain at y newid hwn – ac rwy’n teimlo’n hyderus ein bod yn barod am y dyfodol gyda Arielle a Cindy, ein Prif Weithredwyr ar y Cyd newydd, ynghyd â’n cydweithwyr anhygoel.”
Tania Russell-Owen
8 Mai 2026
Newyddion
Erthyglau Perthnasol
Swyddi
Cyfle Swydd: Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau
Hyd at 21 awyr yr wythnos. Caerdydd a gweithio o gartref. Ymuna â’n tîm anhygoel! Wyt ti’n frwdfrydig am weithio ar brosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc a chymunedau i ddylanwadu newid? Mae gennym gyfle cyffroes ar gyfer Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau i ymuno â’n tîm deinamig a helpu i gyflawni cyfathrebiadau deniadol a phrosiectau effeithiol. Pam y byddi […]
Swyddi
Cyfle Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Cymraeg
Swydd perffaith ar gyfer person creadigol sy’n rhugl yn y Gymraeg Yn galw holl grewyr cynnwys – ymuna â’n tîm creadigol! Wyt ti’n ysgrifennwr creadigol gyda sgiliau iaith Gymraeg rhagorol sy’n chwilio am y cam nesaf yn dy yrfa mewn amgylchedd deinamig? Mae cyfle cyffrous, parhaol, ar gael yn ProMo Cymru ar gyfer Swyddog Cyfathrebu […]
Newyddion
Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd
Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]