star

Cyllid Digidol: Chwalu 6 Chwedl



Awdur: Joe Roberson ac Alex Mecklenburg; Amser Darllen: 5 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru


Mae’r adnodd yma ar gyfer unrhyw un sy’n cymryd rhan mewn ceisiadau am grantiau i ariannu costau digidol eu sefydliad. Mae hynny’n cynnwys cyllidwyr yn ogystal â derbynwyr cyllid.


Mae’n rhestru rhai o’r chwedlau sy’n dylanwadu ar ganfyddiadau a phenderfyniadau ynghylch cyllid digidol. Mae’n egluro pam nad yw’n wir ar gyfer pob un, a pham eu bod nhw hefyd yn rhannol wir. Bydd yn eich helpu i wirio’r hyn rydych chi’n meddwl rydych chi’n gwybod am gyllid grantiau ar gyfer costau digidol.

Grym chwedlau

Mae’n naturiol i fodau dynol geisio gwneud synnwyr o’r byd gyda straeon. Mae’r naratifau hyn, er nad ydyn nhw bob amser yn hollol gywir, yn adnoddau ar gyfer deall cysyniadau cymhleth ac ymdopi â heriau. I’r ymennydd dynol, mae’r angen i wneud synnwyr yn fwy na’r angen am gywirdeb. Pan fydd pethau’n gwneud synnwyr yna mae’r meddwl yn dod yn dawelach ac mae bywyd yn teimlo’n haws ei reoli.

Dewch i ni ddefnyddio’r ymddygiad gwneud synnwyr yma mewn sefyllfa codi arian i elusen fach. Yn aml mae’n anodd deall pam bod cais grant yn aflwyddiannus. Mae adborth fel arfer yn generig ac yn gadael bylchau. Rydym yn llenwi’r wybodaeth goll yma er mwyn creu stori sy’n haws ei deall. Dros amser mae chwedlau proffesiynol yn cychwyn o blethu sawl ffaith ynghyd, gan esblygu dros amser wrth i amgylchiadau newid. Dyma sydd yn digwydd gyda chyllid digidol.

Felly, dewch i ni edrych ar rai chwedlau cyllid digidol.

Chwedl 1: Mae’n anoddach dadlau dros gostau digidol craidd o’i gymharu â chostau prosiect digidol

Nid yw hyn yn wir. Mae adnoddau yn bodoli a all helpu i fesur eich cynnydd digidol a dangos i gyllidwyr pam eich bod angen cyllid. Mae’r mesurau yma’n wahanol i rai eraill ond yr un mor ddilys a chadarn. Mae’n bosibl creu set o amcanion a chanlyniadau allweddol a mesur eich cynnydd digidol yn erbyn y rhain. Mae matricsau aeddfedrwydd digidol yn cynnig eglurder.

Mae hefyd yn rhannol wir: nid yw rhai cyllidwyr yn ariannu unrhyw fath o gostau craidd. Felly peidiwch â gwneud cais i’r rhain.

Awgrymiadau:

Chwedl 2: Mae costau eraill yn bwysicach na rhai digidol

Mae sefydliadau dielw a chyllidwyr yn credu hyn weithiau.

Nid yw hyn yn wir. Bydd seilwaith digidol da yn codi pob rhan o’ch sefydliad. Ond bydd seilwaith gwan yn ei gwneud yn llai perthnasol i fuddiolwyr a darpar weithwyr. Wrth i’ch arfer digidol a’ch ffyrdd o weithio syrthio y tu ôl i eraill, mae’r ymdrech i drawsnewid yn dod yn anoddach.

Mae hefyd yn rhannol wir. Nid digidol yw agwedd mwyaf perthnasol prosiect neu sefydliad bob tro. Weithiau ni fydd posib gwneud llawer o gynnydd gyda digidol. Ond gallwch chi barhau i wneud pethau bach yn aml.

Awgrym: Rhestrwch yr holl ffyrdd y mae offer a sgiliau digidol yn eich helpu i gynnal eich sefydliad. Yna, wrth wneud cais, defnyddiwch y rhestr yma i’ch helpu i siarad am berthnasedd digidol i’ch sefydliad.

Chwedl 3: Mae digidol am brosiectau, sianeli, adnoddau, marchnata yn unig

Mae hwn yn chwedl a rennir gan rai cyllidwyr a sefydliadau dielw.

Nid yw hyn yn wir. Mae’n fwy na’r pethau hyn yn unig. Mae hefyd yn seilwaith wrth wraidd eich sefydliad a’r sgiliau a’r arferion digidol y mae eich staff yn eu defnyddio. Dylai fod yn llywio sut rydych chi’n cyflawni strategaeth eich sefydliad.

Awgrym: I’ch helpu i feddwl am yr hyn y mae digidol yn ei olygu i’ch sefydliad, defnyddiwch ein canllaw strategaeth ddigidol.

Chwedl 4: Nid oes gan gyllidwyr ddiddordeb mewn ariannu costau digidol

Nid yw hyn yn wir. Maent wedi dweud yn gyson wrthym fod ganddynt ddiddordeb. Maent bellach yn gweld cyllido costau digidol fel rhan o gyllido ‘busnes fel arfer’ mewn sefydliad.

Beth sy’n wir. Weithiau mae cyllidwyr yn llai hyderus yn ariannu digidol na chostau mwy traddodiadol. Gall hyn ymddangos fel bod llai o ddiddordeb ganddynt. Ond gallwch chi roi hyder iddynt yn eich cais.

Awgrymiadau:

Chwedl 5: Mae cyllidwyr yn credu bod ariannu digidol yn gost neu’n brosiect untro.

Nid yw hyn yn wir. Mae cyllidwyr yn cydnabod bod costau digidol yn parhau, yn union fel staffio a chostau seilwaith eraill fel cynnal a chadw adeiladau. Maen nhw eisiau gwybod sut y byddwch chi’n cynnal y gwaith ar ôl i’r grant ddod i ben.

Awgrym: Darllenwch erthyglau Dot Project am ddeall eich costau digidol presennol a chyllidebu ar gyfer costau digidol y dyfodol.

Chwedl 6: Mae angen dealltwriaeth ddigidol dda ar gyllidwyr er mwyn ariannu costau digidol

Nid yw hyn yn wir. Mae cyllidwyr angen deall sut mae elusennau’n gweithredu. Maent hefyd angen gallu cael sgyrsiau da gydag ymgeiswyr i ddeall beth maent yn gofyn amdano. Ond nid oes rhaid poeni os nad ydynt yn deall sut mae technoleg yn gweithio, gallant gyflwyno partneriaid i’r broses asesu i helpu.

Pam ei fod yn rhannol wir. Mae angen i gyllidwyr ddeall bod digidol yn fodd o ddarparu gwasanaethau a gweithrediadau mewnol. Rhaid deall bod hwn yn fodd o drawsnewid sefydliad a gwella ei effeithiolrwydd. Mae pobl yn disgwyl y gallant ymgysylltu’n ddigidol â’u byd.‍

Awgrymiadau: Darllenwch ‘Beth yw Ystyr Digidol‘ a ‘Yr Hyn Mae Cyllido Digidol yn ei Feddwl

Gwybodaeth bellach

Mae’r dolenni uchod yn lle da i gychwyn. Gallech hefyd ddarllen:

‍‍

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst


Charity number: 1094652
Company number: 01816889