Pennod Newydd i ProMo wrth i Marco Adlewyrchu ar 27 o Flynyddoedd

Yn dilyn bron i dair degawd o arwain ProMo Cymru, mae’r Prif Weithredwr Marco Gil-Cervantes yn camu i lawr i swydd strategol newydd fel Cyfarwyddwr Datblygu.

Ble gychwynnodd popeth

Cychwynnodd taith Marco gyda ProMo 27 mlynedd yn ôl, pan ymunodd â Chymdeithas Datblygu Gydweithredol De Cymru fel gweithiwr prosiect. Ei dasg oedd cefnogi pobl ifanc yn Ne Caerdydd i ddatblygu eu syniadau a’u busnesau o fewn y diwydiannau diwylliannol.

Y bobl ifanc yma a feddyliodd am yr enw a’r logo cyntaf ar gyfer y prosiect: ProMo. Mae’r seren a ymddangosodd yn y logo gwreiddiol hwnnw, symbol o ddyhead a gobaith, yn parhau i fod yn rhan o hunaniaeth ProMo hyd heddiw.

Effaith, Proffil, Twf

Mae’r hyn a gychwynnodd fel prosiect un person yng Nghaerdydd wedi tyfu i fod yn rhywbeth wir anhygoel. Mae ProMo Cymru bellach yn cyflogi dros 50 aelod o staff, yn cyflawni prosiectau’n genedlaethol ledled Cymru, ac yn cynnal cysylltiadau a chydweithrediadau ystyrlon ledled y DU ac Ewrop.

Mae ffocws ProMo wedi bod yn cefnogi pobl ifanc a chymunedau erioed. Mae aros yn driw i egwyddorion gwaith ieuenctid a gwerthoedd cydweithredol wrth ein craidd, yn sicrhau bod ein gwaith yn parhau i fod yn ddilys – mae popeth arall a wnawn yn llifo’n naturiol o’r sylfaen honno.

Etifeddiaeth Marco

Mae rhestr y cyflawniadau dros y 27 mlynedd yma’n hir, ond mae rhai yn sefyll allan.

  • Trawsnewid swyddfa docynnau bws wag i’r Abacus, gofod cymunedol bywiog dan arweiniad artistiaid oedd yn cynnig gofod i artistiaid, cerddorion a meddyliau creadigol lleol i gysylltu, arddangos a pherfformio.
  • Trefnu digwyddiadau DeepCult gan gynnwys gwyliau rhyngwladol a digwyddiad Sanctuary Wales ym Mae Caerdydd, yr ‘Atomic Fish Collective’ “enwog” a chyfnewidfa draws ddiwylliannol yn dod â pherfformwyr Carnifal St Kitts i Ŵyl Aberdâr
  • Datblygu Meic, y llinell gymorth genedlaethol gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc Cymru, a ddaeth yn uniongyrchol o lwyddiant prosiect CLIC, y gwasanaeth gwybodaeth genedlaethol i bobl ifanc yng Nghymru.
  • Chwarae rhan allweddol yn achub Sefydliad Glynebwy, y sefydliad hynaf yng Nghymru, rhag cau a dirywio. Heddiw, mae’r EVI yn sefyll fel adeilad cymunedol a diwylliannol, yn gwasanaethu cymunedau Glynebwy a Blaenau Gwent.

Ochr yn ochr â’r rhain, mae ProMo wedi gweithio ar draws y GIG, gwasanaethau ieuenctid a’r trydydd sector i sicrhau bod lleisiau ifanc yn wirioneddol yn arwain datblygiad gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

Marco yw’r cyntaf i bwysleisio nad ymdrech unigol yw hyn i gyd. Mae’n rhannu bod llwyddiant ProMo yn deillio o “gydweithrediad, gwaith caled ac ymroddiad ein staff, a sefydlogrwydd ac ymroddiad ein haelodau bwrdd gwirfoddol.”

Beth sydd i ddod nesaf?

Yn ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr Datblygu, bydd Marco yn canolbwyntio ar dwf strategol a chyfleoedd y dyfodol, gan helpu i gadw ProMo ar flaen y gad o ran arloesedd a menter gymdeithasol. Mae’n parhau i fuddsoddi’n drwm yn nhaith y sefydliad.

“Rwyf wastad wedi gweithio i ddatblygu diwylliant a phobl hyderus, greadigol a chefnogol o fewn ProMo Cymru fel y sylfaen i olyniaeth, sy’n hanfodol i’n llwyddiant a’n datblygiad yn y dyfodol,” myfyria Marco.

“Teimlai fel bod y 27 mlynedd diwethaf wedi arwain at y newid hwn – ac rwy’n teimlo’n hyderus ein bod yn barod am y dyfodol gyda Arielle a Cindy, ein Prif Weithredwyr ar y Cyd newydd, ynghyd â’n cydweithwyr anhygoel.”

Tania Russell-Owen
8 Mai 2026

star

Newyddion

divider

Erthyglau Perthnasol

star

Newyddion

Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd

Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]

Meic logo
star

Llinell Gymorth

Ymchwil Annibynnol yn Amlygu Rôl Meic yn Cefnogi Pobl Ifanc mewn Argyfwng

Mae ymchwil genedlaethol yn archwilio sut mae Meic yn darparu rhwyd ddiogelwch hanfodol i blant a phobl ifanc ledled Cymru yn ystod eu cyfnodau anoddaf. Golwg Genedlaethol ar Gymorth mewn Argyfwng Cynhaliodd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) brosiect CAMH-Crisis2 rhwng 2023 a 2025. Roedd yr astudiaeth yn mapio gwasanaethau argyfwng […]

Love Your Period Campaign Poster
star

Meic

Caru dy Fislif: Ymgyrch Wedi’i Chyd-gynhyrchu

Mae ProMo Cymru wedi ymrwymo i roi llwyfan i leisiau ifanc a chreu newid ystyrlon. Mae Caru Dy Fislif, ymgyrch a gynhyrchwyd ar y cyd â llinell gymorth Meic a phobl ifanc o Gymru, yn enghraifft berffaith o hyn. Bûm yn gweithio mewn partneriaeth â’r ymgyrchydd ifanc Molly Fenton, sylfaenydd yr ymgyrch Love Your Period, […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889