Cynllunio Gwasanaeth

Helpu sefydliadau i gynllunio gwasanaethau gwell gyda phobl.

Mae ein dull yn cyfuno ein profiad gwaith ieuenctid, trefnu cymunedol, cyd-gynllunio ac ymgysylltu diwylliannol. Yn sail i hyn i gyd mae ein syniadau digidol creadigol.

Y camau cyflawnir gyda chi a’ch cymuned…

Darganfod

Creu sgyrsiau am yr hyn sydd yn bwysig. Yn defnyddio ymchwil cyfranogol, bydd ProMo yn eich helpu i siarad gyda’ch cymunedau. Cysylltu drwy ddigidol, wyneb i wyneb, trafodaeth grŵp a gwrando ar eich arbenigedd. Bydd ein mewnwelediadau cyfunol yn ein caniatáu i weld ystod lawn eich her.

Datblygu

Rydym yn gwneud mwy nag siarad. Er mwyn profi syniadau, rydym yn creu prototeipiau digidol neu gorfforol ac yn cyflwyno’r rhain i’r gymuned. Byddech yn gallu gweld sut mae pobl yn defnyddio’r hyn sydd wedi cael ei adeiladu, ac yn dysgu beth sydd yn gweithio gyda’n gilydd. Mae’r atebion gennych chi a’r bobl rydych chi’n gweithio â nhw, gallem helpu chi i’w darganfod a’u datblygu.

Diffinio

Rydym yn dadorchuddio mewnwelediadau ffres o’n sgyrsiau. Bydd ProMo yn gweithio gyda chi, eich cymuned ac unrhyw hapddalwyr, yn dadansoddi ein trafodaethau ac ymchwilio i weld pa ddatrysiadau fydd yn cyflawni’r newid mwyaf. Bydd tynnu ar ein profiadau o fewnwelediadau ymddygiad a chyd-greu gwasanaeth digidol yn cynllunio’r ffordd orau ymlaen.

Cyflawni

Ar y pwynt yma, byddech eisoes wedi bod ar siwrne gan ddysgu’r hyn sydd yn llwyddiannus ar gyfer eich cymuned. Nawr mae’n amser gweithredu. Byddem yn eich cyfarparu â’r offer, hyfforddiant a’r sgiliau sydd ei angen i lwyddo.

Am wybodaeth bellach ar Gynllunio Gwasanaeth, cysylltwch ag arielle@promo.cymru

Mae prosiectau yn cynnwys

Colurful graphics - front page of the Mind our Future resilience report

Ymchwilio i flaenoriaethau, gwytnwch a gweledigaethau pobl ifanc yng Nghymru y tu hwnt i bandemig Covid-19

Cynllunio Gwasanaeth

Two girls behind the glass of a recording studio talking into microphones

Hyfforddi pobl ifanc i gyflwyno a chynhyrchu radio.

Hyfforddiant ac Ymgynghoriad

Cyflwyno gweithdai cynllunio gwasanaeth i ailfeddwl gwasanaethau cyffuriau ac alcohol.

Cynllunio Gwasanaeth

Cydweithrediad rhwng ProMo, y Modern Alchemists a phobl greadigol eraill o Gaerdydd i greu lleoliad cymunedol dan arweiniad artistiaid.

Lleoliadau Cymunedol

Defnyddio cynllunio gwasanaeth i ddatblygu gwell gwasanaeth iechyd rhywiol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cynllunio Gwasanaeth

Dyma stori am sut aethom ati i greu brand ieuenctid newydd mewn pythefnos wrth ofyn barn 4,000 o bobl ifanc ar Instagram.

Gwaith Ieuenctid Digidol

Gweithdai i hyfforddi pobl ifanc yng Nghanolfan Datblygu Cymunedol De Riverside mewn sgiliau cynhyrchu ffilmiau.

Cyfryngau

A light bricked building with two

Canolfan cymunedol a diwylliannol bywiog ar gyfer Blaenau Gwent a’r ardal gyfagos

Lleoliadau Cymunedol

Un pwynt cyswllt ar gyfer gwybodaeth a chyngor am eiriolaeth yng Ngwent

Llinellau Cymorth

Llinell gymorth gwasanaeth eiriolaeth i gefnogi dinasyddion sydd yn byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i gael llais a dewis o ran gwasanaethau cymorth gofal cymdeithasol.

Llinellau Cymorth

Llinell gymorth sydd yn cefnogi pobl i gael eu clywed, deall gwasanaethau cymdeithasol, a derbyn y cymorth cywir i aros yn annibynnol.

Llinellau Cymorth

Digidol i’r Trydydd Sector. Rhaglen cymorth a datblygu sgiliau digidol i sector wirfoddol Cymru.

Cynllunio Gwasanaeth

Hyfforddiant ac Ymgynghoriad