Gwasanaethau

A man pointing to a wall with writing on it.

Mae ProMo Cymru yn partneru â’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ddychmygu, profi, a chreu gwasanaethau tecach sy’n cael eu cynllunio a’u cyflawni gyda phobl.

Mae ein gwaith yn cael ei lywio gan ddegawdau o ddarparu gwybodaeth ieuenctid digidol a gwasanaethau cymunedol. Rydym yn rhannu’r wybodaeth yma gyda hyfforddiant, ymgynghoriad, darpariaeth a chreu partneriaethau hirdymor er budd pawb.

Mae ProMo yn elusen gofrestredig ac yn fenter gymdeithasol; rydym yn buddsoddi ein helw i wneud gwahaniaeth. Gallech adeiladu dyfodol gwell wrth weithio gyda ni.

Cyflwyno digidol ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector a'r sector cyhoeddus

Trawsnewid, Ymgysylltu a Chysylltu â Phobl Ifanc a Chymunedau.

Creu cyfryngau digidol a chynnwys sydd yn gwneud gwahaniaeth.

Helpu sefydliadau i gynllunio gwasanaethau gwell gyda phobl.

Rhannu ein harbenigedd a'n gwybodaeth i helpu eich gwaith.

Troi adeiladau yn ganolfannau diwylliannol a chymunedol bywiog.

Cefnogi pobl ifanc i gael eu hysbysu, eu cynnwys, eu cysylltu a'u clywed.

Cymorth Digidol

Cefnogi’r Trydydd Sector a’r Sector Cyhoeddus gyda digidol i’ch helpu chi i oroesi heriau a gwella gwasanaethau.

Mae ProMo Cymru yn partneru â’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ddychmygu, profi, creu, gwasanaethau tecach sy’n cael eu cynllunio a’u cyflawni gyda phobl.

Mae ein gwaith yn cael ei lywio gan ddegawdau o ddarparu gwybodaeth ieuenctid digidol a gwasanaethau cymunedol. Rydym yn rhannu’r wybodaeth yma gyda hyfforddiant, ymgynghoriad, darpariaeth a chreu partneriaethau hirdymor er budd pawb.

divider

Llinellau Cymorth

Cefnogi plant, pobl ifanc, ac oedolion gyda gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth.

Blonde haired lady sat at desk with her laptop open. She is speaking on the phone.

Mae ProMo Cymru yn deall y pwysigrwydd o gael rhywun yno i wrando, cynghori ac eirioli ar eich rhan.

Mae gennym dros 10 mlynedd o brofiad yn darparu llinellau cymorth cyfrinachol a dienw wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion unigryw plant, pobl ifanc ac oedolion.

Mae ein cynghorwyr medrus yn ymroddedig i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth gydymdeimladol. P’un a ydych chi’n wynebu heriau o ran iechyd meddwl, perthnasoedd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, neu angen siarad gyda rhywun, mae ein cynghorwyr yma i wrando ac i helpu.

Diogelu sydd wrth galon ein llinellau cymorth, i sicrhau bod ein staff a defnyddwyr ein gwasanaeth yn ddiogel.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithredu pedair llinell gymorth ledled Cymru sydd yn cynnig amrywiaeth o ddulliau cysylltu megis ffôn, neges destun, neges WhatsApp a sgwrs ar-lein i sicrhau bod y cymorth yn hygyrch i bawb.

Mae prosiectau yn cynnwys

Un pwynt cyswllt ar gyfer gwybodaeth a chyngor am eiriolaeth yng Ngwent

Llinellau Cymorth

Llinell gymorth gwasanaeth eiriolaeth i gefnogi dinasyddion sydd yn byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i gael llais a dewis o ran gwasanaethau cymorth gofal cymdeithasol.

Llinellau Cymorth

Llinell gymorth sydd yn cefnogi pobl i gael eu clywed, deall gwasanaethau cymdeithasol, a derbyn y cymorth cywir i aros yn annibynnol.

Llinellau Cymorth

divider

Cyfryngau

Cynhyrchu cyfryngau digidol a chynnwys sydd yn gwneud gwahaniaeth.

Ein cynnig gwasanaethau Cyfryngau:

  • Brandio
  • Cynhyrchu Fideo
  • Hyfforddiant Cyfryngau Achrededig ac Anachrededig
  • Animeiddio, Graffeg Symudiad, Effeithiau Gweledol
  • Podlediad
  • Dylunio Gwe
  • Cymorth Gweminarau
  • Marchnata (Ymgyrchoedd/Deunyddiau)
  • Dylunio Cynnwys Digidol/Argraffedig
  • Ffotograffiaeth

Mae yna syniadau, mewnwelediadau unigryw a chreadigrwydd yn eich cymuned; rydym yn eu helpu i adrodd eu stori. Mae adrodd stori’n dda yn gallu troi materion cymdeithasol a phrofiadau personol cymhleth yn rhywbeth haws ei ddeall.

Mae ProMo Cymru wedi ennill sawl gwobr am ein gwaith, gan gynnwys:

  • Ymgyrch Cyfathrebu a Marchnata Gorau, Wales Online
  • Technoleg Er Budd, Gwobrau Busnes Cymdeithasol
  • Rownd derfynol: Arweinwyr Digidol y DU, Healthtech

divider

Cynllunio Gwasanaeth

Helpu sefydliadau i gynllunio gwasanaethau gwell gyda phobl.

Mae ein dull yn cyfuno ein profiad gwaith ieuenctid, trefnu cymunedol, cyd-gynllunio ac ymgysylltu diwylliannol. Yn sail i hyn i gyd mae ein syniadau digidol creadigol.

Y camau cyflawnir gyda chi a’ch cymuned…

Darganfod

Creu sgyrsiau am yr hyn sydd yn bwysig. Yn defnyddio ymchwil cyfranogol, bydd ProMo yn eich helpu i siarad gyda’ch cymunedau. Cysylltu drwy ddigidol, wyneb i wyneb, trafodaeth grŵp a gwrando ar eich arbenigedd. Bydd ein mewnwelediadau cyfunol yn ein caniatáu i weld ystod lawn eich her.

Datblygu

Rydym yn gwneud mwy nag siarad. Er mwyn profi syniadau, rydym yn creu prototeipiau digidol neu gorfforol ac yn cyflwyno’r rhain i’r gymuned. Byddech yn gallu gweld sut mae pobl yn defnyddio’r hyn sydd wedi cael ei adeiladu, ac yn dysgu beth sydd yn gweithio gyda’n gilydd. Mae’r atebion gennych chi a’r bobl rydych chi’n gweithio â nhw, gallem helpu chi i’w darganfod a’u datblygu.

Diffinio

Rydym yn dadorchuddio mewnwelediadau ffres o’n sgyrsiau. Bydd ProMo yn gweithio gyda chi, eich cymuned ac unrhyw hapddalwyr, yn dadansoddi ein trafodaethau ac ymchwilio i weld pa ddatrysiadau fydd yn cyflawni’r newid mwyaf. Bydd tynnu ar ein profiadau o fewnwelediadau ymddygiad a chyd-greu gwasanaeth digidol yn cynllunio’r ffordd orau ymlaen.

Cyflawni

Ar y pwynt yma, byddech eisoes wedi bod ar siwrne gan ddysgu’r hyn sydd yn llwyddiannus ar gyfer eich cymuned. Nawr mae’n amser gweithredu. Byddem yn eich cyfarparu â’r offer, hyfforddiant a’r sgiliau sydd ei angen i lwyddo.

Am wybodaeth bellach ar Gynllunio Gwasanaeth, cysylltwch ag arielle@promo.cymru

Mae prosiectau yn cynnwys

Close up image of the head and sholders of a young girl taken from behind. She is wearing a red top and hijab and is holding a piece of paper in her hand, talking into a rhode microphone

Cyd-gynllunio a chyd-gyfieithu 56 fideo mewn 14 iaith gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches i Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru.

Cyfryngau

Cynllunio Gwasanaeth

Cryfhau llesiant gyda sgwrs ym Mlaenau Gwent

Lleoliadau Cymunedol

Image in Youth Work Wales branded colour (purple and yellow) to promote the webinar 'Establishing a young people led governance structure for youth work in Wales'

Cynllunio, cyflwyno a hwyluso gweminarau strategaeth ac ymgysylltu rhanddeiliaid ar gyfer y Sector Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Cymorth Digidol

Gwrando ledled Dyfed-Powys i ddeall sut mae bywyd ar-lein yn siapio byd pobl ifanc, y da a’r drwg.

Gwaith Ieuenctid Digidol

Cynllunio Gwasanaeth

Trefnu gwybodaeth, torri trwy’r sŵn digidol, ac arbed amser gydag adnoddau gwell a gwybodaeth hygyrch – fel bod timau yn gallu canolbwyntio ar y pethau pwysig.

Llinellau Cymorth

Annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth drwy waith ieuenctid digidol.

Cyfryngau

Gwaith Ieuenctid Digidol

ERYICAst podcast thumbnail. Image of a studio microphone in focus against a purple background.

Cynhyrchu Podlediadau i’r Sector Gwaith Ieuenctid

Gwaith Ieuenctid Digidol

Cyfryngau

Creu etifeddiaeth hanesyddol, dyfodol ac amgylcheddol yn EVI.

Lleoliadau Cymunedol

Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i brofi syniadau sydd yn helpu sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus i rannu ac addasu arfer da.

Cymorth Digidol

Cynllunio Gwasanaeth

Group of young people sat on the carpet, smiling.

Grymuso pobl ifanc i greu a gweithredu gweledigaeth ar gyfer dyfodol mwy gwydn ac iach yn feddyliol

Cynllunio Gwasanaeth

DigiCymru logo

Gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth un i un, byr, am ddim, i sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru. Yn cael ei ariannu trwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Cymorth Digidol

Digidol i’r Trydydd Sector. Rhaglen cymorth a datblygu sgiliau digidol i sector wirfoddol Cymru.

Cynllunio Gwasanaeth

Hyfforddiant ac Ymgynghoriad

divider

Hyfforddiant ac Ymgynghoriad

Rhannu ein harbenigedd a’n gwybodaeth i helpu chi gyda’ch gwaith.

Rydym yn cynnig hyfforddiant wedi’i deilwro i’ch anghenion. Neu, os hoffech symud ymlaen yn gynt, gallem gynnig ymgynghoriad pwrpasol i’ch cefnogi.

Hyfforddiant

Mae gennym gyfres o gyrsiau hyfforddiant, fel brandio, datblygiad gwe, hysbysebu taledig, ffilmio a golygu ar ddyfais symudol, animeiddio, dylunio graffeg, fideo ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a mwy

Ymgynghoriad

Gallem gynnig cymorth i’ch rhoi ar ben ffordd gyda’ch syniadau. Neu, os ydych yn ansicr sut i gychwyn, gallem eich arwain ar y trywydd cywir. Mae ein hymgynghorwyr wedi cyflawni cannoedd o brosiectau digidol llwyddiannus. Bydd eu profiad yn arbed amser ac yn eich helpu i gyflawni eich nodau.

Mae ein cynnig Hyfforddiant ac Ymgynghori yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i Gyfryngau Cymdeithasol
  • Ymgyrchu Digidol
  • Tik Tok: Tueddiadau Ieuenctid a Chydgynllunio Cyfryngau Cymdeithasol
  • Cyflwyniad i Gynllunio Gwasanaeth
  • Adeiladu CRM yn Airtable
  • Eiriolaeth ar Waith
  • Cyflwyniad i Ganllawiau Brandio a Brandio
  • Canva er Budd
  • AI er Budd
  • Podlediadau
  • Sut i Greu Fideo
  • Sinemateg Symudol: Meistroli Creu Ffilm gyda Ffôn Clyfar
  • Sut i Greu Fideos ar Gyfer TikTok
  • Prototeipio a Phrofi Gwasanaethau Digidol

Os hoffech drafod ein cymorth hyfforddiant ac ymgynghori, cysylltwch ag andrew@promo.cymru

divider

Lleoliadau Cymunedol

Troi adeiladau yn ganolfannau diwylliannol a chymunedol bywiog.

Mae gan ProMo dros 10 mlynedd o brofiad mewn datblygu lleoliadau i ddarparu gweithgareddau creadigol a chymunedol, dysgu a menter gymdeithasol sydd yn helpu i adfywio economïau lleol.

Os hoffech chi ddarganfod mwy am sut gallem eich cefnogi chi i adeiladu cymunedau cryfach, cysylltwch â nathan@promo.cymru

divider

Gwaith Ieuenctid Digidol

Rydym yn credu y dylai pobl ifanc gael mynediad i wybodaeth, eiriolaeth a chefnogaeth sydd yn hawdd i’w ddarganfod, yn syml i’w ddeall ac mewn ffurf gellir ei ddefnyddio.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn hysbysu ein gwaith, ac rydym wedi bod yn cyflawni prosiectau gwaith ieuenctid digidol ers degawdau bellach.

Rydym yn cynnal gwasanaethau cenedlaethol digidol ar gyfer pobl ifanc ac yn cefnogi sefydliadau eraill i hysbysu pobl ifanc drwy ddigidol.

Gall ProMo eich cefnogi chi i roi llais ac anghenion pobl ifanc wrth galon eich prosiectau neu wasanaethau.  Rydym yn arbenigo yn gwneud hyn gan ddefnyddio creadigrwydd a digidol.

Bod hynny’n creu app, gwefan, ffilm neu ddatblygu sgiliau eich staff.  Gyda’n gilydd gallem gynnal sgyrsiau gyda phobl ifanc.

Mae prosiectau yn cynnwys

Close up image of the head and sholders of a young girl taken from behind. She is wearing a red top and hijab and is holding a piece of paper in her hand, talking into a rhode microphone

Cyd-gynllunio a chyd-gyfieithu 56 fideo mewn 14 iaith gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches i Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru.

Cyfryngau

Cynllunio Gwasanaeth

Cryfhau llesiant gyda sgwrs ym Mlaenau Gwent

Lleoliadau Cymunedol

Image in Youth Work Wales branded colour (purple and yellow) to promote the webinar 'Establishing a young people led governance structure for youth work in Wales'

Cynllunio, cyflwyno a hwyluso gweminarau strategaeth ac ymgysylltu rhanddeiliaid ar gyfer y Sector Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Cymorth Digidol

Gwrando ledled Dyfed-Powys i ddeall sut mae bywyd ar-lein yn siapio byd pobl ifanc, y da a’r drwg.

Gwaith Ieuenctid Digidol

Cynllunio Gwasanaeth

Trefnu gwybodaeth, torri trwy’r sŵn digidol, ac arbed amser gydag adnoddau gwell a gwybodaeth hygyrch – fel bod timau yn gallu canolbwyntio ar y pethau pwysig.

Llinellau Cymorth

Annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth drwy waith ieuenctid digidol.

Cyfryngau

Gwaith Ieuenctid Digidol

ERYICAst podcast thumbnail. Image of a studio microphone in focus against a purple background.

Cynhyrchu Podlediadau i’r Sector Gwaith Ieuenctid

Gwaith Ieuenctid Digidol

Cyfryngau

Creu etifeddiaeth hanesyddol, dyfodol ac amgylcheddol yn EVI.

Lleoliadau Cymunedol

Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i brofi syniadau sydd yn helpu sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus i rannu ac addasu arfer da.

Cymorth Digidol

Cynllunio Gwasanaeth

Group of young people sat on the carpet, smiling.

Grymuso pobl ifanc i greu a gweithredu gweledigaeth ar gyfer dyfodol mwy gwydn ac iach yn feddyliol

Cynllunio Gwasanaeth

DigiCymru logo

Gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth un i un, byr, am ddim, i sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru. Yn cael ei ariannu trwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Cymorth Digidol

Digidol i’r Trydydd Sector. Rhaglen cymorth a datblygu sgiliau digidol i sector wirfoddol Cymru.

Cynllunio Gwasanaeth

Hyfforddiant ac Ymgynghoriad

divider

Charity number: 1094652
Company number: 01816889